GTRC yn sicrhau cyllid ar gyfer CDT EPSRC newydd mewn Systemau Ynni Tanwydd Digarbon Gwydn
25 Chwefror 2019
Yn ddiweddar cyhoeddodd y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) gyllid ar gyfer Canolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) mewn Systemau Ynni Tanwydd Digarbon Gwydn, gan greu gallu unigryw i gyflawni gwaith ymchwil mewn cymwysiadau ynni-ddwys yn ystod yr wyth mlynedd nesaf. Mae'r partner diwydiant, GE Power, yn datgan bod y CDT yn "faes ymchwil sy'n hollbwysig i sicrhau ein bod yn cyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon yn y Deyrnas Unedig."
Bydd CDT Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy (GTRC) yn yr Ysgol Peirianneg, a bydd yn gyfleuster graddfa fawr oddi ar y safle sy’n gwneud gwaith ymchwil sy’n arwain y byd ar systemau a thanwydd hylosgi newydd tyrbinau nwy. Bydd yn darparu hyfforddiant ac ysgoloriaethau EPSRC a ariannir yn llawn ar gyfer myfyrwyr PhD sydd am wneud gwaith ymchwil sy'n hollbwysig i ddarparu ynni sy'n llesol i'r amgylchedd ar gyfer y dyfodol.
Bydd y cydweithio rhwng prifysgolion Nottingham (sy’n arwain), Caerdydd a Sheffield yn ymchwilio i ailbennu diben ac ail-ddefnyddio seilwaith ynni presennol i gyflwyno dadgarboneiddio cyflym a chost-effeithiol ar draws y pedair thema ganlynol:
- Caniatáu ail-ddefnyddio a datblygu prosesau presennol i gynhyrchu ynni a chyd-gynhyrchion o fiomas carbon isel a thanwydd gwastraff, ac i fwyafu manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y pontio hwn i’r Deyrnas Unedig.
- Lleihau’r allyriadau CO2 o brosesau diwydiannol drwy weithredu Cipio, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS), ac integreiddio hynny â rhwydweithiau gwresogi lle bo'n briodol.
- Asesu opsiynau ar gyfer dadgarboneiddio defnyddwyr nwy naturiol (yn danwydd neu’n ddeunydd crai) yn y system cynhyrchu pŵer, diwydiant a gwresogi domestig trwy gyfuniad o wella hydrogen a/neu CO2. Elfen arall hollbwysig o’r thema hon yw datblygu technolegau sy’n galluogi cyflenwad cynaliadwy o H2 heb fawr ddim carbon, a mabwysiadu tanwydd/deunydd crai H2 neu wedi’i gyfoethogi ag H2 mewn amrywiol gymwysiadau yn y sectorau hyn.
- Awtomeiddio seilwaith presennol trydan, nwy a fectorau eraill (gan gynnwys dulliau presennol a newydd o storio ynni) ar sail technolegau rheoli uwch, cloddio data a datblygu offeryniaeth newydd, gan sicrhau system ynni glyfrach a mwy hyblyg am gost is. Mae hyn yn caniatáu gweithrediad hyblyg i gefnogi system sy’n cynhyrchu llawer o ynni adnewyddadwy amrywiol.
Dywedodd Dr Richard Marsh, ymchwilydd arweiniol ym Mhrifysgol Caerdydd, 'Bydd y CDT yn darparu ysgoloriaethau EPSRC wedi'u hariannu'n llawn i fyfyrwyr PhD weithio ar rai o'r problemau amgylcheddol ac ynni mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu heddiw. Bydd yn cyfuno'r arbenigedd sylweddol a chyfleusterau’r amrywiol bartneriaid dan sylw i helpu i greu arweinwyr peirianneg y dyfodol ym maes ynni di-garbon."
Dywedodd Cyfarwyddwr GTRC, yr Athro Phil Bowen: 'Mae hyn yn cydnabod y cyfraniad sylweddol mae staff GTRC wedi’i wneud i feithrin enw da’r ganolfan yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, trwy allbynnau ymchwil a’u heffaith, yn ogystal â hyfforddiant DPP. Mae’n hawdd mynd ati i esbonio sut mae tyrbin gwynt neu dyrbin llanw yn cyfrannu at yr her ynni: mae esbonio rôl gritigol tyrbinau nwy ym maes dadgarboneiddio, ochr yn ochr â chynnal system ynni wydn, dipyn yn fwy cynnil. Mae gennym berthynas waith wych gyda'n partneriaid yn Nottingham a Sheffield, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â nhw yn ystod yr 8 mlynedd nesaf.
Mae gan y CDT ystod o gyfleusterau ymchwil a hyfforddi neilltuol ar gyfer prosiectau ymchwil.
Mae’r cyfleusterau tymheredd/pwysedd uchel yn y GTRC yn golygu bod modd ymchwilio i systemau ynni carbon isel, eu datblygu a dileu eu risgiau. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu systemau hylosgi carbon sero trwy danwydd megis hydrogen (gyda TATA) a chymysgeddau amonia (gyda Siemens), ochr yn ochr ag optimeiddio methodolegau Cipio Carbon ar gyfer y sectorau diwydiannol a phŵer. Mae biodanwydd gyda Chipio Carbon yn cyflwyno rhagolygon cyffrous pŵer carbon negyddol, h.y. y tu hwnt i ynni adnewyddadwy. Maes ymchwil arall cyffrous yw arfarnu tanwydd awyrennau a gynhyrchir o allyriadau carbon y diwydiant dur, fel y mae dylunio ac argraffu 3D cydrannau pen-poeth fel chwistrellwyr a hylosgwyr, gan alluogi effeithlonrwydd na fu modd ei gyflawni’n flaenorol wrth ddefnyddio technegau gweithgynhyrchu confensiynol. Mae’r posibiliadau o ran ymchwil ryng-ddisgyblaeth yn aruthrol.
Mae hylosgwyr optegol GTRC yn golygu bod modd datblygu a defnyddio technegau diagnostig optegol uwch er mwyn optimeiddio’r broses hylosgi ar gyfer datrysiadau carbon isel/sero/negyddol. Mae data a gynhyrchir o’r technegau uwch hyn, nad ydynt yn ymwthiol, yn golygu bod modd dilysu modelau llif cymhleth sy’n ymateb i amlgyfnodau cythryblus, na fyddai’n bosibl fel arall.
Cam nesaf y broses CDT fydd crisialu prosiectau ymchwil fydd yn cychwyn ym mis Hydref 2019 neu fis Chwefror 2020.