Triniaethau chwyldroadol ar gyfer clefydau’r llygaid o fewn cyrraedd tîm o Brifysgol Caerdydd
25 Chwefror 2019
Gallai fod yn syndod clywed ein bod, yn 2019, yn parhau i ddibynnu ar ddiferion llygad i raddau helaeth ar gyfer cyflwyno dosau o gyffuriau i’r llygaid. Dyma dechneg hynafol sydd â’i manteision, heb os nac oni bai. Fodd bynnag, mae tua 95% o ddos y cyffur a gyflwynir drwy ddiferion llygad yn diflannu oherwydd amrantu a’r system draenio dagrau. O ganlyniad, mae angen i gleifion/clinigwyr ddal i gyflwyno’r diferion gan fod mwyafrif y dosau’n dibennu’n ofer yn y cylchrediad systemig.
Mae nifer o Ysgolion Prifysgol Caerdydd yn cydweithio ar y prosiect hwn, gan gynnwys yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ac Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae’r prosiect wedi ennill cyllid sylweddol gan y BBSRC i ddatblygu ystod newydd o gynhyrchion blaengar, newydd ar gyfer gwella targedu a deilliannau therapiwtig ar draws amrywiaeth o glefydau’r llygaid.
Mewn gwaith blaenorol a ariannwyd gan BBSRC, dangosodd Dr Charles Heard a’r Athro Andrew Quantock y gellir gwella dulliau cyflwyno cyffuriau i’r llygaid yn sylweddol drwy ddefnyddio nifer o ddulliau blaengar, gan gynnwys ffilmiau tenau, lensiau cyffwrdd a micronodwyddau. Gyda dyfodiad yr Athro David Whitaker i’r tîm, cafwyd £511K gan Gronfa SUPER BBSRC. Nod y gronfa yw trosi canfyddiadau’r labordy’n gynhyrchion sydd ar gael yn fasnachol. Bydd yr ymchwilwyr yn gweithio’n agos gyda Swyddog Trosglwyddo Technoleg Prifysgol Caerdydd, Rhian North a phartner masnachol Thèa Pharmaceuticals.
I ddechrau, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar gynhyrchion newydd ar gyfer trin llid y gornbilen, sy’n codi heriau sylweddol i’r gwyddonwyr o ran cyflwyno cyffuriau ac yn rhoi argoelion difrifol i gleifion sydd ag achosion o lid ffwngaidd ac Acanthamoeba o’r llygaid.
Mae Dr Heard a’r Athro Quantock yn aelodau o Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd (CITER). Dechreuodd y ddau gydweithio’n llwyddiannus ar ôl trafodaeth yn un o Gyfarfodydd Gwyddonol Blynyddol CITER.