Wythnos Cynaliadwyedd 2019
22 Chwefror 2019
Mae'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i nodi Wythnos Cynaliadwyedd 2019 Prifysgol Caerdydd.
Rydym yn falch iawn o allu croesawu’r Athro Tim Lang, Athro Polisi Bwyd ym Mhrifysgol Dinas Llundain, i gyflwyno ein prif ddarlith nodedig: “A ddylai'r DU dyfu mwy o fwyd?”
Bydd yr Athro Lang yn edrych ar system fwyd y DU, sydd eisoes dan bwysau. Mewn nifer o ffyrdd, mae'n anghynaladwy, mae'n cyfrannu at oblygiadau anuniongyrchol enfawr ym maes iechyd, ac mae newidiadau yn y system economaidd yn gwasgu’r prif gynhyrchwyr.
Ymunwch â ni i weld sut y gall ffermio a bwyd yn y DU helpu i ailadeiladu ecosystemau, gan gynnwys trafodaeth ar oblygiadau Brexit, sut y gellid defnyddio diet meincnod ar gyfer defnyddwyr y DU, a'i oblygiadau ar gyfer iechyd ac arferion bwyta. Cofrestrwch i gael eich tocyn rhad ac am ddim.
Bydd y Sefydliad yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau eraill hefyd yn rhad ac am ddim:
Planhigion a Phobl: Ymunwch â ni ar gyfer taith y tu ôl i’r llenni o gasgliad botaneg economaidd a llysieufa Amgueddfa Cymru.
Bananageddon - Ffrwyth mewn argyfwng: Er mwyn cadw bananas yn ein powlenni ffrwythau, rhaid i ni fel defnyddwyr hyrwyddo ffyrdd newydd o gynhyrchu bananas. Ymunwch â ni am drafodaeth ar sut y gallwn gael dyfodol gwell.
Taith gerdded wedi’i thywys i'r Gerddi Byd-eang: Ymunwch â ni am daith gerdded wedi’i thywys trwy Barc Bute i’r Gerddi Byd-eang.
Taith gerdded wedi’i thywys i Erddi Cymunedol Treganna: Ymunwch â ni am daith gerdded wedi’i thywys trwy Barc Bute ac ymlaen i Erddi Cymunedol Treganna yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter.
Trawsffurfio perthnasoedd mewn systemau bwyd rhanbarthol: Ein nod yw deall sut gall TG gatalyddu cysylltiadau a chyflwyno deietau mwy iachus ac amgylcheddol gynaliadwy.
Gweithdy Photovoice: Bydd y gweithdy hwn yn arddangos ffyrdd gwahanol o ddefnyddio dull Photovoice mewn prosiectau ymchwil.
Taith feic wedi’i thywys i Ardd Gymunedol Glan-yr-afon: Mwynhewch daith feic wedi’i thywys i Ardd Gymunedol Glan-yr-afon yn Rhandiroedd Pontcanna.