Caerdydd yn ymuno â Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Deallusrwydd Artiffisial
21 Chwefror 2019
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â Chanolfan Hyfforddiant Doeuthrol newydd er mwyn helpu i greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr ym maes Deallusrwydd Aritiffisial (AI).
Bydd y Ganolfan, o dan arweiniad Prifysgol Abertawe a chyllid gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn arbenigo mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch, ac yn cydweithredu’n agos gydag Uwchgyfrifiadura Cymru.
Bydd cyfanswm o £200m o fuddsoddiad y DU yn creu 16 o Ganolfannau newydd yn y DU gyda 1,000 PhD i drawsnewid Deallusrwydd Artiffisial, gan weithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys AstraZeneca, Google a Rolls-Royce, ac ymddiriedolaethau’r GIG.
Dywedodd Roger Whitaker, Athro Deallusrwydd Cyfunol a Deon Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartneriaid allweddol yn y gwaith o hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr Deallusrwydd Artiffisial. Mae’n cynnwys ymchwilwyr o bob un o'n tri Choleg yng Nghaerdydd, mewn meysydd lle mae Deallusrwydd Artiffisial eisoes yn cael effaith sylweddol.
“Bydd y Ganolfan, a arweinir gan yr Athro Gert Aarts ym Mhrifysgol Abertawe, yn defnyddio data o gyfleusterau gwyddoniaeth mawr megis y Gwrthdrawydd Hadronnau Mawr ac Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LIGO); gwyddoniaeth fiolegol, iechyd a chlinigol; a dulliau mathemategol, ffisegol a chyfrifiadureg newydd i hyfforddi ymchwilwyr doethurol a allai gael effaith ar draws ystod eang o ddisgyblaethau a diwydiannau.”
Bydd CDT Cymru yn ymwneud â gwaith PhD ar draws ystod o arbenigeddau Caerdydd gan gynnwys:
- Uwchgyfrifiadura Cymru - rhaglen gwerth £15m a ariennir gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru sy’n galluogi timau ymchwil prifysgolion yng Nghaerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth i gael gafael ar gyfleusterau cyfrifiadura pwerus.
- Prosiect Seilwaith Cwmwl MRC ar gyfer Biowybodeg Microbaidd (CLIMB) y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ar draws pedair prifysgol – Caerdydd, Abertawe, Warwick a Birmingham – i greu cwmwl cyhoeddus/preifat i’w ddefnyddio gan academyddion y DU.
- Tonnau Disgyrchol – roedd uwchgyfrifiadur yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn gymorth i ymchwilwyr yng Ngrŵp Ffiseg Ddisgyrchol i gadarnhau signalau a ganfuwyd gan LIGO.
- Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Chynghrair Technoleg Ryngwladol Dadansoddeg Dosbarthedig a Gwyddoniaeth Wyddonol (DAIS ITA) - a ffurfiwyd i ddatgloi’r potensial o ddadansoddi data mawr a Deallusrwydd Artiffisial mewn sefyllfaoedd ar lawr gwlad.
Yn ogystal â’r £100m a gyhoeddwyd heddiw drwy UKRI, mae partneriaid prosiect yn buddsoddi £78 miliwn mewn arian parod neu gyfraniadau o fath arall ac mae prifysgolion partner yn ymrwymo i roi £23 miliwn ar ben hynny, sy'n golygu bod cyfanswm o dros £200 miliwn wedi'i fuddsoddi.
Dywedodd yr Athro Syr Mark Walport, Prif Weithredwr UKRI: “Mae deallusrwydd artiffisial yn dechnoleg sy’n tarfu mewn ystod o sectorau, sy’n galluogi cynhyrchion a gwasanaethau newydd ac yn trawsnewid gwyddor data. Mae hyn yn ein galluogi i ddatblygu dulliau newydd o fynd i’r afael â heriau mor amrywiol â rhoi diagnosis cynnar i glefyd a'r newid yn yr hinsawdd.
“I gynnal ei harweinyddiaeth ym maes Deallusrwydd Artiffisial, bydd angen cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr, arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid yn y DU wedi’u harfogi â sgiliau newydd. Wrth weithio gyda phartneriaid ar draws y byd academaidd a diwydiant, cyhoeddodd y canolfannau heddiw y byddant yn cynnig y sylfeini ar gyfer arweinwyr y dyfodol.”