Ymgynghoriad ar y canllawiau newydd ar gyfer Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb newydd yng Nghymru
20 Chwefror 2019
Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio ar 'Ganllawiau Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (RSE)' diwygiedig ar gyfer ysgolion yng Nghymru.
Cafodd Panel Arbenigol y Gweinidog Addysg (Cymru) ei gadeirio gan yr Athro Emma Renold a ddefnyddiodd dystiolaeth ymchwil rhyngwladol i nodi materion a chyfleoedd. Gallai’r rhain lywio penderfyniadau ynglŷn â chefnogi'r proffesiwn addysgu i gyflwyno addysg rhyw a pherthnasoedd o ansawdd uchel mewn ysgolion yn fwy effeithiol.
Datblygwyd yr arweiniad drafft newydd yn unol ag argymhellion y panel a bydd yn cefnogi ysgolion wrth weithredu 'agwedd ysgol gyfan' i RSE; gan ystyried y cwricwlwm, polisïau ehangach ysgolion, ffynonellau cefnogi allanol ac astudiaethau achos sy'n dangos arfer gorau.
Mae newid enw o Addysg Rhyw a Pherthnasedd i Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb wedi cael ei weithredu trwy'r canllawiau drafft hefyd.
O 2022, bydd Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb newydd, sy'n gynhwysol, yn gyfannol ac sy'n grymuso pobl, yn cael ei gwreiddio yng nghwricwlwm Cymru ar sail statudol.
Dywedodd Cadeirydd y Panel Arbenigol, yr Athro Emma Renold, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Rwy’n falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi lansio'r ymgynghoriad hwn, a bod y canllawiau drafft diwygiedig ar gyfer ysgolion wedi cael eu llywio gan weledigaeth y panel arbenigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i drawsnewid Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yng Nghymru.
Mae'r canllaw hwn wedi'i ymgorffori mewn agwedd ysgol gyfan ac wedi'i ategu gan egwyddorion craidd hawliau, cyfiawnder, cynhwysedd, amddiffyn a grymuso. Os cyfunir â datblygiad proffesiynol effeithiol, a’r amser i'w gyflwyno, gallai wneud yn siŵr bod RSE perthnasol, atyniadol ac o ansawdd uchel yn diwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc."
Dywedodd y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams: "Bydd ein canllawiau newydd yn helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y newidiadau i'r ffordd y bydd RSE yn cael ei haddysgu yn ein cwricwlwm newydd trwy roi cyngor a chymorth ychwanegol iddynt ynglŷn â gweithredu agwedd ysgol gyfan at RSE.
"Dyma'r berthynas gydol oes yr ydym yn ei ffurfio yn ein blynyddoedd cynnar, fel teulu a ffrindiau, a all roi'r sefydlogrwydd, y sicrwydd a'r gefnogaeth sydd eu hangen i gynnal lles. Rwy'n annog pawb i gyfrannu at yr ymgynghoriad, i wneud yn siŵr ein bod yn cael RSE yn gywir i'n disgyblion."
Daeth panel arbenigol Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (Cymru) i'r casgliad bod Addysg Rhyw a Pherthnasoedd mewn ysgolion yn rhy fiolegol ac yn rhy negyddol, heb roi digon o sylw i hawliau, tegwch rhywiol, emosiynau a pherthnasoedd. Arweiniodd y canfyddiadau hyn i'r panel argymell trawsnewid y cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn llwyr.
Mae angen cyflwyno sylwadau ar y canllawiau erbyn 1 Ebrill, 2019.