Manteision tymor hir therapi dwys yng nghamau cynnar MS
20 Chwefror 2019
Mae canfyddiadau newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn awgrymu bod therapi dwys yn ystod camau cyntaf sglerosis ymledol (MS) yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion yn y tymor hir, er yr ystyrir ei fod yn opsiwn mwy peryglus na thriniaethau cychwynnol eraill.
Dywedodd Dr Emma Tallantyre, o Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd: “Dros y 10-20 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld datblygiadau enfawr yn nhriniaeth ysbeidiol MS, gyda dros 12 o feddyginiaethau trwyddedig yn llwyddo i arafu datblygiad clefydau.
“Fodd bynnag, mae’r meddyginiaethau yn amrywio’n sylweddol o ran eu heffeithlonrwydd a’u diogelwch; yn aml, y cyffuriau sy’n cael yr effaith fwyaf yw’r rhai sy’n cael eu cysylltu â’r peryglon sy’n peri’r mwyaf o ofid. O ganlyniad, ceir cryn ansicrwydd ymysg clinigwyr a phobl gydag MS o ran pa mor ymosodol y dylid trin y cyflwr yn ei gamau cyntaf, gyda therapïau dwys cynnar sydd ag effeithlonrwydd uchel yn aml yn cael eu cadw ar gyfer y rhai hynny sydd ag MS difrifol sy’n datblygu’n gyflym.
“Mae ein hastudiaeth yn ceisio ymchwilio i ganlyniadau yn y tymor hir ar gyfer pobl ag MS yn ôl eu strategaeth triniaeth cychwynnol – naill ai therapi dwys cynnar, sy’n gysylltiedig â phroffil diogelwch mwy cymhleth, neu feddyginiaethau ysgafnach sy’n gallu cynnwys cyffuriau mwy dwys dros amser os bydd y clefyd yn parhau i ddatblygu.”
Bu’r tîm yn edrych ar ddata gan grŵp o 592 o bobl gydag MS, wedi’u trin yn ne Cymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r dadansoddiad yn canolbwyntio’n bennaf ar y newid mewn Graddfa Statws Anabledd Estynedig (EDSS), dull o fesur anabledd mewn MS a monitro newidiadau yn lefel yr anabledd, bum mlynedd ar ôl dechrau’r driniaeth. O’r 592 o bobl sy’n rhan o’r astudiaeth, rhoddwyd therapïau dwys cynnar i 104 tra bod 488 yn dechrau ar driniaeth lai peryglus, ag effaith gymedrol.
“Daeth i’r amlwg yn y garfan hon bod deilliannau tymor hir mwy ffafriol yn dilyn therapi dwys cynnar o’i gymharu â therapïau sy’n addasu’r clefyd. Mae hyn yn awgrymu y gallai’r trothwyon sy’n bodoli eisoes ar gyfer y dull therapiwtig fod yn rhy uchel, ac y gall yr oedi a osodwyd gan y strategaethau dwysáu arwain at golli cyfle therapiwtig”, ychwanegodd Dr Tallantyre.
Dywedodd yr Athro Neil Robertson, Athro Niwroleg a chyd-awdur yr astudiaeth: “Mae’r data hwn yn dangos, mewn sefyllfa therapiwtig gymhleth iawn, fod y data sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd yng nghlinigau’r GIG yn werthfawr dros ben gan ei fod yn cynnig tystiolaeth go iawn a allai helpu i ateb y cwestiynau sydd mor bwysig i gleifion.
“Yn wir, mae ein canfyddiadau wedi cyfrannu at wobr lwyddiannus o dros $10 miliwn i ariannu DELIVER-MS, darpar dreial aml-ganolfan o algorithmau therapi addasu clefyd, gyda phobl yn cymryd rhan yn y DU a’r UDA.
“Yn y cyfamser, mae gwaith i’w wneud i ddatblygu prosesau addas i drin cleifion gan ddefnyddio’r dull dwysáu. Rhaid iddynt ganfod lle mae’r triniaethau cychwynnol yn methu ag arafu datblygiad y clefyd, ac ymateb drwy symud cleifion i therapïau mwy effeithiol heb i bobl ddatblygu anabledd parhaol.”
Mae’r papur, ‘Therapi addasu clefyd mewn MS: canlyniadau clinigol strategaethau dwysáu o’i gymharu â thriniaeth ddwys gynnar’ yn cael ei gyhoeddi yn JAMA Neurology.