Llwch cosmig yn ffurfio mewn ffrwydradau uwchnofâu
20 Chwefror 2019
Mae gwyddonwyr yn datgan eu bod wedi dadlennu hen ddirgelwch o sut mae llwch cosmig, sef blociau adeiladu sêr a phlanedau, yn ffurfio ar draws y Bydysawd.
Mae llwch cosmig yn cynnwys darnau bach iawn o ddeunydd organig ac mae ar wasgar ar draws y Bydysawd. Yn y lle cyntaf, mae’r llwch yn cael ei ffurfio mewn sêr ac yna mae’n cael ei wasgaru mewn gwynt araf, neu ffrwydrad seren enfawr.
Hyd at nawr, nid oedd fawr o ddealltwriaeth ymysg seryddwyr ynghylch pam mae cymaint o lwch cosmig yn y cyfrwng rhyngserol. Mae amcangyfrifon damcaniaethol yn awgrymu y dylai’r llwch gael ei chwalu gan ffrwydradau uwchnofâu.
Mae uwchnofa yn ddigwyddiad a geir yn ystod marwolaeth seren sy'n broses aruthrol ac yn un o ddigwyddiadau mwyaf pwerus y Bydysawd. Mae’n cynhyrchu siocdon sy’n dinistrio pob dim o’i blaen.
Eto i gyd, mae ymchwil newydd a gyhoeddir yn Monthly Notices of the Royal Astronomical Society wedi arsylwi bod llwch cosmig o gwmpas y ffrwydrad uwchnofa agosaf i ni a ganfuwyd, Uwchnofa 1987A, wedi goroesi.
Mae arsylwadau o awyren ymchwil NASA, Arsyllfa Stratosfferig ar gyfer Seryddiaeth Isgoch (SOFIA), wedi canfod llwch cosmig mewn set nodedig o fodrwyau sy’n rhan o Uwchnofa 1987A.
Yn ôl pob golwg, mae’r canlyniadau’n awgrymu bod maint y llwch cosmig yn y modrwyau’n cynyddu’n gyflym. Mae hyn yn darbwyllo’r tîm bod y llwch yn ailffurfio ar ôl cael ei ddinistrio yn sgîl siocdon yr uwchnofa.
Ni ystyriwyd erioed o’r blaen y gallai’r amgylchedd ôl-sioc fod yn barod i ffurfio neu atffurfio llwch. Gallai’r pwynt hwn droi’r fantol o ran deall sut mae llwch cosmig yn cael ei greu a’i ddinistrio.
“Roeddem eisoes yn gwybod am fudiant araf y llwch yng nghalon 1987A,” meddai Dr Mikako Matsuura, prif awdur y papur o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
“Cafodd ei ffurfio o’r elfennau trwm a grëwyd yng nghraidd y seren farw. Ond mae arsylwadau SOFIA yn dweud rhywbeth hollol newydd wrthym.”
Gellir gwresogi gronynnau llwch cosmig o ddegau i gannoedd o raddau, a bydd hyn yn gwneud iddynt dywynnu ar donfeddi isgoch a milimedr. Gellir cynnal arsylwadau o allyriadau llwch tonnau milimedr o’r ddaear yn gyffredinol, drwy ddefnyddio telesgopau. Fodd bynnag, mae cynnal arsylwadau o olau isgoch yn amhosibl bron oherwydd ymyrraeth gan ddŵr a charbon deuocsid yn atmosffer y Ddaear.
Drwy hedfan dros y mwyafrif o foleciwlau sy’n rhwystro golau isgoch, mae SOFIA yn gadael i ni ddefnyddio rhai rhannau o’r sbectrwm isgoch y byddai’n amhosibl eu defnyddio o’r Ddaear.