Academydd o Gaerdydd yn ohebydd crwydrol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd
1 Hydref 2015
Athro'r Gyfraith o'r Brifysgol yn gwirfoddoli i
fod yn rhan o 'The Pack'
Wrth i weddill y genedl fwynhau Cwpan Rygbi'r Byd o gysur eu cartrefi, mae
Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi mynd gam ymhellach drwy
wirfoddoli fel gohebydd crwydrol yn ystod y digwyddiad a gynhelir fis Medi a
mis Hydref.
Mae'r Athro Angela Devereux, Pennaeth y
Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol, yn gefnogwr
rygbi brwd, felly pan welodd hysbyseb gan Undeb Rygbi Lloegr y llynedd yn
gwahodd pobl i fod yn rhan o The Pack,
sef yr enw a roddir ar y tîm gwirfoddoli, gwnaeth gais yn syth.
Meddai, "Rwy'n 60 fis nesaf, felly roeddwn am wneud rhywbeth ychydig bach
yn wahanol. Llenwais ffurflen yn nodi fy sgiliau a fy mhrofiad, a dywedais fy
mod yn hapus i wneud unrhyw swydd a oedd yn addas ar fy nghyfer yn eu barn nhw.
"Cefais fy ngwahodd i gyfweliad yn Stadiwm y Mileniwm fis Awst diwethaf, ac ym mis Ionawr, cefais ebost yn dweud fy mod wedi cael fy newis i fod yn rhan o The Pack. Roedd hyn yn dipyn o gamp, oherwydd dim ond 6,000 o ymgeiswyr o'r 20,000 gwreiddiol gyrhaeddodd y cam hwn.
"Dywedwyd wrthyf y byddwn yn ohebydd a fyddai'n
gofyn am ddyfyniadau cyflym; yn cyfweld â chwaraewyr a hyfforddwyr mewn
cynadleddau i'r wasg ac yn y Parth Cymysg (Mixed
Zone) ar ôl y gêm, gan ffeilio'r dyfyniadau ar safle gwasanaeth newyddion -
Rugby News Service - sydd ar gael i'r
holl gyfryngau achrededig."
Cyn iddi ymwneud â'r gyfraith a'r byd academaidd, gweithiodd Angela fel
newyddiadurwr yn Lloegr a Paris, felly roedd ei rôl wirfoddol yn gwireddu
breuddwyd.
Ers i Gwpan Rygbi'r Byd ddechrau, mae Angela wedi
gweithio ar dair gêm yng Nghaerdydd hyd yma: Iwerddon vs Canada, Cymru vs
Uruguay a Fiji vs Awstralia.
Ar ddiwrnod gêm, mae'n eistedd ar lwyfan y wasg, ac yn cyfweld â chwaraewyr
allweddol ar ôl y gêm wrth iddynt fynd o'r ystafell newid i fws y tîm.
"Mae bod yn rhan o bencampwriaeth o'r fath yn gymaint o hwyl, ac rwy'n teimlo fy mod yn cael profiad nad yw'r rhan fwyaf yn ei gael - fel gwylio cyn-gapten tîm Canada yn cyrraedd y stadiwm gydag elc mawr meddal o dan ei fraich, neu gyfarfod â thîm hyfryd Uruguay."
"Y peth anoddaf hyd yma oedd dysgu enwau tîm Fiji a gorfod teipio'n gyflym iawn, sy'n anodd pan rydych yn nerfus!"
Cynhelir gweddill y gystadleuaeth tan 31 Hydref 2015. I gael gwybod am y gemau sydd yng Nghaerdydd, ewch i wefan Cwpan Rygbi'r Byd.