Y Brifysgol yn bartner i Eisteddfod yr Urdd
18 Chwefror 2019
Bydd Prifysgol Caerdydd yn bartner i un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop i bobl ifanc pan fydd yn ymweld â Bae Caerdydd eleni.
Mae'r bartneriaeth gydag Eisteddfod yr Urdd 2019, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai a 1 Mehefin, yn rhan o ymrwymiad y Brifysgol i'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Mae disgwyl i fwy na 15,000 o bobl ifanc gymryd rhan mewn cystadlaethau sy'n cynnwys canu, dawnsio a pherfformio.
Bydd gan y Brifysgol bresenoldeb mawr ar y Maes, a bydd yn cefnogi rhai o'r digwyddiadau mwyaf blaenllaw.
Yn ôl Deon y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Huw Williams, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi'r Gymraeg a diwylliant Cymru fel rhan o'i strategaeth.
"Rhan o'n 'cenhadaeth ddinesig' yw hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg a gwneud yn siŵr ein bod yn cyfrannu i fywyd diwylliannol Cymru", meddai Dr Williams.
"Rydym eisoes yn gwneud hynny mewn sawl ffordd, yn enwedig drwy gymryd rhan a chefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn, ond rydw i wrth fy modd ein bod yn bartner i Eisteddfod yr Urdd hefyd.
Yn ogystal â chynnal digwyddiadau a gweithgareddau yn Eisteddfod yr Urdd eleni, bydd y Brifysgol yn noddi seremoni uchel ei pharch, y Coroni – ar gyfer awdur y darn gorau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau – a'r gyngerdd ar ddiwedd y digwyddiad.
Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Rydym yn falch iawn o’n partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd eleni ac yn ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth. Mae derbyn cefnogaeth gan gwmnïau a sefydliadau lleol a chenedlaethol yn rhan annatod o lwyddiant Eisteddfod yr Urdd ac fel rhan o’n partneriaeth bydd Prifysgol Caerdydd yn cefnogi un o brif seremonïau’r ŵyl, sef y Coroni yn ogystal a’r gig ar y nos Sadwrn.
“Ers sawl blwyddyn bellach, mae’r Gig ar ddiwedd yr wythnos yn uchafbwynt i nifer o’n haelodau a gyda chefnogaeth y Brifysgol, bydd modd i’r bobl ifanc fwynhau’r gorau o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes unwaith eto eleni wrth i Eisteddfod yr Urdd ddychwelyd i Fae Caerdydd.”
Mae tua 90,000 o ymwelwyr yn dod i Eisteddfod yr Urdd ac mae'n cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae'n cael ei chynnal ym Mae Caerdydd eleni, yr un lleoliad â'r Eisteddfod Genedlaethol hynod lwyddiannus yn 2018.
Bydd mynediad i'r Maes yn rhad ac am ddim a bydd ffi am fynd i'r prif Bafiliwn ac y rhagbrofion.
2009 yw'r tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Bae Caerdydd.