Cyllid Cymrodoriaeth yn cefnogi prosiect celf amgylcheddol
14 Chwefror 2019
Enwyd cyn-fyfyriwr ymhlith y garfan fydd yn derbyn Cymrodoriaeth Arloesi ac Arweinyddiaeth y Sefydliad Pensaernïaeth Tirwedd (LAF).
Mae Hans Baumann, a raddiodd gyda BSc mewn Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio (2006), yn un o chwe Chymrawd a gyhoeddwyd gan y LAF. Bydd yn dilyn rhaglen 12 mis i ddatblygu ei sgiliau arwain, fydd yn cynnwys trafodaethau, beirniadaeth a mentora mewn cyfnodau preswyl tri diwrnod yn Washington D.C.
Bydd pob cymrawd hefyd yn derbyn $25,000 ac yn addunedu 12 wythnos i ymgymryd â phrosiectau unigol â'r bwriad o sicrhau newid cadarnhaol yn y proffesiwn, i'r amgylchedd neu i ddynoliaeth.
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd Hans ddwy flynedd yn gweithio fel cynllunydd trefol cyn dychwelyd i addysg. Sicrhaodd radd Meistr mewn Pensaernïaeth Tirwedd o Ysgol Dylunio Harvard i Raddedigion. Wrth weithio mewn practis preifat fel pensaer tirwedd, dechreuodd Hans ddatblygu ei bortffolio fel artist ac erbyn hyn mae'n gweithio llawn amser fel Artist Tir, o'i gartref yn Santa Monica, California.
Prosiect Hans yn ystod y Gymrodoriaeth flwyddyn o hyd fydd creu gosodwaith celf tir safle-benodol, a gwblheir mewn cydweithrediad ag Indiaid Cahuilla Anialdir Torres Martinez ar eu Gwarchodfa Lwythol yn ne California. Bydd yn mesur diflaniad Môr Salton.
Esbonia Hans: "Môr Salton fu cartref y Cahuilla ers cyn cof, ac mae cyswllt hanfodol rhwng dyfodol y Llwyth hwn a dyfodol y tirwedd hwn. Erbyn 2030, bydd o ddeutu traean o'r môr mewndirol 340 milltir sgwâr wedi diflannu.
Bydd y prosiect yn defnyddio'r tirlun fel cyfrwng cyfathrebu ac yn plethu damcaniaeth ac ymarfer dylunio Gorllewinol gyda gwybodaeth a thraddodiadau cynhenid y Cahuilla." Aiff Hans yn ei flaen: "Bydd y gwaith celf cyflawn yn arddangos naratif a ysgrifennwyd gan artistiaid Cahuilla am eu mamwlad. Ein bwriad yw y bydd llawer o hwn o dan y dŵr, a dim ond yn raddol, wrth i'r dŵr ddiflannu, y bydd mwy ohono'n cael ei ddatgelu ac yna, rai degawdau yn y dyfodol, bydd graddfa lawn y darn i'w gweld ar draws gwely sych y llyn. Bydd y broses hirdymor hon yn chwyddo llais y Cahuilla ac yn dangos gwydnwch a dewrder y Cahuilla yn wyneb heriau amgylcheddol a diwylliannol."
Dilynwch Hans ar Instagram i gael golwg ar ei waith ac i ddilyn ei daith.