Cyn-fyfyriwr ar restr fer gwobr RTPI
14 Chwefror 2019
Mae'r cyn-fyfyriwr ac Uwch Gynllunydd yn Deloitte, Ross Raftery, ar restr fer gwobr Cynllunydd Ifanc y Flwyddyn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).
Bydd Ross, a gyflawnodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Datblygu Dinesig a Rhanbarthol (BSc 2006) ac MSc Datblygu Trefol a Rhanbarthol (2014) yn clywed a yw wedi ennill y wobr mewn seremoni yn Llundain ar 24 Ebrill 2019.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Cynllunio'r RTPI yn gwobrwyo cyflawniad rhagorol ym maes cynllunio ac yn cydnabod perfformiad ac ymarfer o ansawdd uchel ar draws nifer o gategorïau gwahanol.
Ymunodd Ross â Deloitte fel Cynllunydd Graddedig ym mis Medi 2014 ac yno mae wedi gallu datblygu, cyfoethogi ac ategu ei sgiliau academaidd gyda defnydd ymarferol a phrofiad. Yn ddiweddar mae wedi derbyn cyfrifoldebau newydd fel arweinydd arloesi Eiddo Tiriog Deloitte.
Gan ymateb i gyhoeddi'r rhestr fer, dywedodd Ross: "Rwy'n hynod o falch i gael fy ngosod ar restr fer Cynllunydd Ifanc y Flwyddyn 2019 yr RTPI . Mae'r wybodaeth a'r profiadau a gefais ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys blwyddyn ar leoliad gyda Chyngor Bro Morgannwg, wedi fy ngalluogi i wneud y gorau o'r amrywiaeth eang o gyfleoedd a gynigiwyd i fi yn Deloitte."
Gan ymateb i'r newyddion, dywedodd yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Rydym ni bob amser yn awyddus i glywed am lwyddiannau cyn-fyfyrwyr, ac mae cyrraedd rhestr fer Cynllunydd Ifanc y Flwyddyn yn dyst i waith caled a thalent Ross, ac yn newyddion i'w ddathlu.
"Mae ein rhaglenni gradd wedi'u cynllunio i herio meddwl ein myfyrwyr, eu hannog i gwestiynu'r staus quo a hybu creadigrwydd i helpu i ddatrys rhai o heriau cymdeithasol, economaidd, datblygu a chynllunio mawr yr 21ain ganrif. Y nod yw cynhyrchu graddedigion sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth, yr hyder a'r cywreinrwydd i ragori, a sicrhau newid cadarnhaol yn eu dewis feysydd. Mae Ross yn enghraifft ddisglair o hyn a hoffwn ei longyfarch ar ei lwyddiant haeddiannol gan ddymuno'r gorau iddo yn y gwobrau ym mis Ebrill!"
Nid yw'r BSc Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ar gael yn yr Ysgol nawr. Mae'r Ysgol yn cynnig BSc Cynllunio a Datblygu Trefol.