Caerdydd yn arwain y ffordd mewn ymchwil seibr-ddiogelwch y DU
14 Chwefror 2019
Mae pennaeth Canolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC), rhan o Bencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth (GCHQ), wedi canmol rôl Prifysgol Caerdydd i’yn y frwydr yn erbyn ymosodiadau seibr.
Roedd Ciaran Martin, Prif Weithredwr NCSC, yn siarad ar ymweliad â Phrifysgol Caerdydd - a gafodd ei chydnabod y llynedd fel y Ganolfan Rhagoriaeth gyntaf mewn Ymchwil Seibr-ddiogelwch yng Nghymru gan NCSC, a’r unig un yng Nghymru.
Dywedodd: “Mae'n wych gweld yr ymchwil seibr-ddiogelwch arloesol sy'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd. Y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Seibr-ddiogelwch yw'r cyntaf o'i math yng Nghymru ac mae’n helpu i gynyddu gwybodaeth a hybu gallu diogelwch-seibr y DU...”
Mae achrediad 'ACE' y Brifysgol yn caniatáu i ymchwil Caerdydd fwydo’n uniongyrchol i ymdrechion Llywodraeth y DU i wneud y wlad yn fwy diogel ac yn fwy gwydn i fygythiadau seibr.
Dywedodd Pete Burnap, Athro Gwyddoniaeth Data & seibr-ddiogelwch a Phennaeth ACE: “Rydym ar ben ein digon bod Ciaran ai’i gydweithwyr yn NCSC wedi cymryd yr amser i ymweld â Phrifysgol Caerdydd.
“Gyda ffocws craidd ar ddadansoddi diogelwch seibr, rydym wedi gallu cyflwyno ein gwaith ymchwil arloesol ar ddatblygu deallusrwydd artiffisial i ganfod ac atal ymosodiadau seibr.
“Bu hefyd yn gyfle i arddangos ein gwaith gyda phartneriaid yn y diwydiant megis Airbus, a sut rydym yn gweithio ar y cyd i droi'r ymchwil arloesol yn atebion go iawn i ddiogelwch...”
Fe wnaeth Mr Martin a Paul Chichester, Cyfarwyddwr Gweithrediadau NCSC, ymweld â’r Brifysgol i weld gwaith yr ACE ar waith, i gwrdd ag ymchwilwyr a myfyrwyr ac archwilio rhagor o gyfleoedd i gydweithio.
Dywedodd yr Athro Kim Graham, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn gwybod bod seibr-ddiogelwch yn rhan annatod o'r byd newydd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Er bod arloesi a thechnoleg newydd yn cynnig llawer o fanteision, mae hefyd yn ein rhoi mewn perygl a dan fygythiadau newydd.
“Dyna pam mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn buddsoddi mewn ymchwil a sgiliau yn y maes hwn, gan weithio’n agos â phartneriaid yn y diwydiant megis Airbus i ddatblygu’n harbenigedd a’n gallu. Mae bod yn rhan o’r rhwydwaith ACE a datblygu’n gwaith ym maes dadansoddeg seiberddiogelwch yn gyflym yn gwella ymchwil sy’n gwarchod rhwydweithiau cenedlaethol hanfodol, ac yn arddangos ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i ddefnyddio ein arbenigedd ymchwil i ddatrys problemau go iawn.”