Creithio imiwnolegol yn sgîl clefyd seliag
14 Chwefror 2019
Mae astudiaeth newydd sy’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn awgrymu y disodlir celloedd imiwnedd yng ngholuddyn pobl sy’n dioddef o glefyd seliag yn barhaol gan is-set newydd o gelloedd sy’n hybu llid.
Mae’r ‘creithio imiwnolegol’ parhaol hwn yn gosod sylfaen i’r clefyd ddatblygu, a gallai gael goblygiadau hir dymor i iechyd perfeddion cleifion sy’n dioddef ei effaith.
Mae'r canlyniadau hefyd yn awgrymu y gallai’r un broses fod yn cyfrannu at anhwylderau cronig eraill yn y coluddion, megis colitis briwiol.
Dywedodd Dr James McLaren, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Gyda chlefyd seliag, mae celloedd T y ceir hyd iddynt yn y coluddyn yn adweithio â glwten ac yn achosi llid, sy’n niweidio leinin y coluddyn.
"O dan amgylchiadau arferol, mae gan gelloedd T rôl amddiffynnol yn y coluddyn ac yn ffurfio poblogaeth sefydlog. Fodd bynnag, gyda chlefyd seliag, maent yn cyfrannu at y broses lidus, gan achosi symptomau tymor byr a chynyddu'r risg o ddatblygu rhai mathau o ganser y coluddyn.
“Mae ein hastudiaeth newydd yn awgrymu, er bod modd lliniaru symptomau tymor byr, megis dolur rhydd a phoen yn y bol, trwy dynnu glwten allan o’r diet, gall y goblygiadau tymor hir aros, oherwydd disodlir y celloedd T sy’n 'iachau meinwe' yn y coluddyn yn barhaol gan gelloedd T ‘rhag-lidus’.”
Mae clefyd seliag yn gyffredin ac yn effeithio ar un o bob 100 o bobl. Mae’r tîm rhyngwladol yn gobeithio y bydd y darganfyddiadau newydd yn helpu i lywio triniaeth anhwylderau coluddol cronig.
Cyhoeddir yr ymchwil ‘Chronic inflammation permanently reshapes tissue-resident immunity in celiac disease’ yn Cell.
Mae'r tîm yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Chicago, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Monash, Canolfan Ymchwil CHU Sainte-Justine, Prifysgol Leiden, Prifysgol Groningen, a Phrifysgol Columbia.