Ymrwymiad y Brifysgol i gymunedau lleol
14 Chwefror 2019
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ailddatgan ei hymrwymiad i roi cymunedau lleol wrth wraidd ei gwaith.
Mae’r Brifysgol yn ymuno â 30 o sefydliadau eraill i gefnogi “Cytundeb Prifysgol Ddinesig” mewn partneriaeth â’r llywodraeth leol a sefydliadau mawr eraill.
Mae’r cytundeb newydd yn argymhelliad allweddol mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Prifysgol Ddinesig a ddechreuwyd gan Sefydliad UPP ac sydd wedi’i gadeirio gan Gyn-bennaeth y Gwasanaeth Sifil, Lord Kerslake.
Mae’r adroddiad yn amlinellu sut y mae’r gallu, y cyfle a’r cyfrifoldeb gan brifysgolion fel Prifysgol Caerdydd i gefnogi’r lle maent wedi’u lleoli i ddatrys rhai o’r prif heriau a phroblemau.
Mae’r problemau yn amrywio o roi hwb i iechyd pobl leol, cefnogi addysg i ddisgyblion ysgol a dysgwyr sy’n oedolion, a hyfforddi a datblygu arweinwyr dinesig newydd.
Nod yr adroddiad yw helpu prifysgolion i adeiladu ar y gwaith gwych y mae nifer ohonynt eisoes yn ei wneud yn yr ardaloedd hyn, gan weithio ochr yn ochr â chynghorau, cyflogwyr, sefydliadau diwylliannol, ysgolion a cholegau addysg bellach.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae’r Comisiwn Prifysgol Ddinesig yn amlygu’r rôl hanfodol sydd gan brifysgolion yn eu cymunedau a sut y gallwn adeiladu ymhellach ar y gwaith hwn.
“Mae adroddiad y Comisiwn yn canmol ‘cenhadaeth ddinesig’ Prifysgol Caerdydd sydd â’r nod o wella iechyd, cyfoeth a lles ein cymunedau.
“Mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n sefyll ochr yn ochr â’n cymunedau ac yn parhau i feithrin cysylltiadau sydd o fudd i’r naill ochr a'r llall.”