Gallai namau symud o ganlyniad i awtistiaeth fod yn
13 Chwefror 2019
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod cysylltiad rhwng mwtaniad genynnol a namau symud datblygiadol mewn awtistiaeth.
Darganfu’r astudiaeth fod mwtaniad yn y genyn CYFIP1 yn arwain at newidiadau yn natblygiad celloedd yr ymennydd, sy’n arwain at broblemau echddygol. Hefyd, mae’r astudiaeth yn awgrymu bod anawsterau dysgu echddygol yn digwydd ar oedran ifanc a’u bod yn gildroadwy drwy hyfforddiant ymddygiadol.
Yn ôl Dr Stéphane Baudouin o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: “Mae pobl gydag awtistiaeth yn tueddu i brofi anawsterau rhyngweithio cymdeithasol, cyfathrebu ac ymddygiadau ailadroddus. Ar ben hyn, mae anhwylderau symud, fel problemau ynghylch ymddaliad, ynghyd â chynllunio a chydsymud echddygol, yn gyffredin mewn awtistiaeth.
“Roeddwn am ddeall y rhesymau gwaelodol dros y problemau echddygol sy’n codi mewn awtistiaeth, a chanfod y mwtaniadau genynnol allai arwain at y symptomau corfforol.
“Roedd ymchwil flaenorol yn awgrymu bod y mwtaniad CYFIP1 hwn yn effeithio ar sefydlogrwydd strwythurol celloedd yr ymennydd. Mae ein hastudiaeth wedi adeiladu ar yr ymchwil hon a dyma’r un gyntaf sy’n profi bod hyn yn wir.
Canfu’r ymchwil fod y mwtaniad yn y genyn CYFIP1 yn effeithio ar ffurfiant cefnau celloedd yr ymennydd gan eu gwneud yn ansefydlog. Arweiniai hyn at y problemau echddygol sy’n codi wrth ddatblygu gydag awtistiaeth.
Drwy ymyriadau cynnar gyda therapïau symud, credir bod modd lleihau’r namau symud.
“Canfu ein canlyniadau bod yr anawsterau dysgu echddygol yn codi ar oedran ifanc ond eu bod yn gildroadwy gyda hyfforddiant ymddygiadol.
“Rydym yn credu os rhoddir therapi symud ar oedran ifanc, pan mae plentyn yn cael diagnosis o awtistiaeth ynghyd â namau echddygol, gallai’r therapi helpu i atal namau echddygol sy’n codi wrth i’r plentyn fynd yn hŷn.
“Mae ein hymchwil wedi dadlennu rhai o’r rhesymau genynnol a biolegol dros pam mae’r namau symud hyn yn codi mewn awtistiaeth. Ar ben hynny, mae ein hymchwil wedi rhoi cynllun ar gyfer lleddfu’r symptomau hyn ag ymyriadau cynnar,” meddai Dr Stéphane Baudouin.
Cyhoeddwyd yr ymchwil yn Translational Psychiatry: https://www.nature.com/articles/s41398-018-0338-9