MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang
13 Chwefror 2019
Bydd gradd meistr newydd gan Brifysgol Caerdydd yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr i fynd i’r afael â heriau byd-eang sy'n cael effaith sylweddol ar fywyd gwyllt ac ecosystemau ledled y byd.
Mae’r byd yn wynebu heriau digynsail; o boblogaeth ddynol sy’n tyfu a chynnydd yn nifer y cynefinoedd sy'n cael eu colli, i lygredd plastig a newid yn yr hinsawdd. Er mwyn ymateb i'r heriau hyn, mae angen gwyddonwyr arloesol a hyblyg sy'n gallu datblygu strategaethau cadwraeth fydd yn cael effaith go iawn.
Bydd MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang Prifysgol Caerdydd yn cyfuno damcaniaethau gwyddonol ag ymchwil ymarferol yn y maes, er mwyn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i fyfyrwyr i'w galluogi i greu atebion effeithiol y gellir eu cynnal ar raddfa fawr ar gyfer rhai o broblemau mwyaf y byd.
O afonydd de Cymru i goedwigoedd glaw Borneo, bydd yn cwmpasu’r materion mwyaf o ran cadwraeth, sy’n effeithio ar wahanol gynefinoedd ym mhedwar ban y byd. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu sut i ganfod a datrys y bygythion i rywogaethau ac ecosystemau wrth iddynt ymddangos. Bydd y cwrs hefyd yn manteisio’n llawn ar amrywiaeth ecolegol anhygoel Cymru – yr amgylchedd perffaith i fyfyrwyr fagu eu sgiliau ar gyfer ymchwil yn y maes.
“Mae’r byd sydd ohoni’n newid yn gyflym – ac mae ein hecosystemau dan fwy o straen nag erioed o’r blaen,” esboniodd yr Athro Jim Murray, Pennaeth Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Mae Ysgol y Biowyddorau’n gartref i wyddonwyr arweiniol sy’n cynnal ymchwil arloesol i nifer o faterion amgylcheddol – o arwain ymchwil i newid yn yr hinsawdd, i ddatblygu cynlluniau gweithredu i warchod rhywogaethau brodorol. Bydd yr MSc newydd yn cynnig cyfle cyffrous iddynt rannu’r wybodaeth hon â’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ecolegol. Bydd yr arbenigwyr yn meithrin yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar y myfyrwyr, er mwyn iddynt allu gwneud gwahaniaeth go iawn i’r byd.”
Ychwanegodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Mae ymchwil yn dweud wrthym mai’r newid yn yr hinsawdd a difa’r byd natur yw’r materion byd-eang mwyaf difrifol, yn ôl pobl 18-35 oed ledled y byd.
“Fel sefydliad cyfrifol sydd â chenhadaeth ddinesig gryf, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd amgylcheddol. Mae ein strategaeth ar gyfer Y Ffordd Ymlaen 2018-23 yn cynnwys targedau uchelgeisiol i hepgor plastigau untro, lleihau allyriadau carbon a gwella cyfraddau ailgylchu, er enghraifft.
“Mae ein MSc newydd mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yn ein galluogi i fynd â'n hymrwymiad i faterion amgylcheddol gam ymhellach. Drwy ymchwil ac addysgu rhyngddisgyblaethol, nod y cwrs blaengar hwn yw meithrin gwyddonwyr sgilgar a gwybodus all ddyfeisio atebion arloesol i rai o’r prif heriau sy’n wynebu'r byd yn yr unfed ganrif ar hugain a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n hamgylchedd nawr ac yn y dyfodol.”