Her Prifysgol TRADA 2019
13 Chwefror 2019
Mae tîm amlddisgyblaethol o israddedigion, gan gynnwys myfyriwr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Elliott Wang, wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio â phren sy’n agored i fyfyrwyr ledled y DU. Daeth tîm Elliott yn 4ydd yn y gystadleuaeth yn gyffredinol.
Bu 60 myfyriwr o brifysgolion ledled y DU yn cymryd rhan yn her dull charrette yn Sheffield ar 8-9 Chwefror 2019. Roedd yr her yn gwahodd myfyrwyr i ddylunio llety myfyrwyr rhagorol, o bren yn bennaf, gyda phwyslais ar iechyd a lles, effeithlonrwydd ynni ac adeiladu o fewn cyllideb.
Gofynnwyd i fyfyrwyr fodloni briff manwl wrth ddylunio, gan ymgorffori cynnyrch noddwyr tra’n gweithio o fewn cyfyngiadau bywyd go iawn a oedd yn deillio o’r safle dewisol ar gyfer yr her hon: hen ganolfan siopa yng nghanol ardal siopa Sheffield. Roedd pob tîm yn cynnwys dau bensaer, dau beiriannydd, pensaer tirwedd a syrfëwr meintiau – gan greu sefyllfaoedd a pherthnasoedd sy’n cymharu â thimau prosiect – gyda gweithwyr proffesiynol arloesol ym maes dylunio a diwydiant yn cynnig cefnogaeth arbenigol.
Dywedodd Elliott, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru: “Dewisais gymryd rhan gan fy mod i’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i gynrychioli’r Ysgol, ac i gael dealltwriaeth bellach o waith tîm ar draws proffesiynau a dyfodol y defnydd o bren yn ein diwydiant. Roeddwn i’n meddwl bod y gystadleuaeth yn agoriad llygad, nid yn unig gan i mi ddysgu llawer am adeiladu pren a rhagsaernïaeth, ond hefyd gan i mi ddysgu llawer am yr hyn y mae pobl ar gyrsiau megis peirianneg sifil a thirfesur meintiol yn ei wneud, a beth sy’n gorgyffwrdd ag addysg bensaernïol. Fe wnes i fwynhau’r gystadleuaeth yn fawr ond roedd yn bendant yn brofiad dwys dros ben gan mai diwrnod a hanner a gawsom i ddylunio’r cynllun cyfan.”
Mae TRADA (The Timber Research and Development Association) yn sefydliad ag aelodaeth ryngwladol sydd wedi ymrwymo i ysbrydoli a llywio ymarfer gorau ym maes dylunio, manyleb a’r defnydd o bren yn yr amgylchedd adeiledig, ac mewn meysydd cysylltiedig.