Demonisation of smoking and drinking in pregnancy can prevent cessation
12 Chwefror 2019
![Pregnant woman smoking cigarette](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/1436755/Smoking-in-pregnancy.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd, gall bod yn llawdrwm ar fenywod sy'n smygu neu'n yfed tra'n feichiog eu cymell i wneud hynny'n gyfrinachol, yn hytrach na dod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt i roi'r gorau iddi.
Soniodd y rhai a gafodd gyfweliad ar gyfer yr astudiaeth am yr ymatebion negyddol iddynt brofi wrth smygu neu yfed ychydig bach o alcohol yn gyhoeddus tra'n feichiog, ac o ganlyniad, byddent yn smygu ac yn yfed gartref yn lle hynny.
Soniodd y menywod hefyd eu bod wedi cuddio'r ffaith eu bod yn smygu rhag eu bydwragedd a'u partneriaid, gyda rhai'n datgelu bod gan eu partneriaid wrthwynebiad chwyrn i smygu a'u bod yn hynod o feirniadol ohonynt.
Ar y llaw arall, er nad oedd alcohol yn cael ei yfed yn gyhoeddus oherwydd y stigma sydd ynghlwm wrth hynny, roedd rhai partneriaid yn annog eu gwragedd a'u cariadon i yfed alcohol ar yr aelwyd, am eu bod yn mwynhau gwneud hynny gyda'i gilydd cyn beichiogi.
Soniodd cyfranogwyr oedd yn yfed neu'n smygu hefyd am berthynas lletchwith gyda bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys cael cyngor iechyd cyhoeddus mewn modd oedd yn swnio'n feirniadol, a hynny'n ei dro'n eu gwneud yn llai tebygol i geisio cyngor a chefnogaeth y bobl hynny.
Roedd llawer o'r cyfranogwyr o'r farn ei bod yn dderbyniol i fenyw feichiog smygu'n breifat. Roedd hynny'n gyferbyniad llwyr â'u barn am smygu'n gyhoeddus, oedd yn cael ei ystyried fel bod yn amhriodol. Soniodd rhai cyfranogwyr oedd wedi smygu tra'n feichiog y bydden nhw'n dal i feirniadu menywod beichiog oedd yn smygu'n gyhoeddus.
Ni chafodd y condemniad o'r rheiny a smygai'n gyhoeddus tra'n feichiog ei gyfyngu i sigarennau; cafodd un defnyddiwr e-sigarennau ei beirniadu gan ddieithriaid hefyd.
Yn ôl Dr Aimee Grant, awdur arweiniol ar yr astudiaeth, oGanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd: "Caiff beirniadaeth foesegol ei hanelu fyth a hefyd at famau drwy gyfeirio at ymddygiad iechyd tra'n feichiog, ac mae mamau dosbarth gweithiol yn enwedig yn destun y feirniadaeth hon, sy'n anwybyddu heriau byw ar incwm isel.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0014/156011/aimee_grant.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Yn ôl ein hastudiaeth, mae rhythu a gwneud sylwadau ar y menywod beichiog hynny – gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd – yn eu gwylltio a'u hynysu, a'u gwneud yn llai tebygol o geisio cymorth. Does neb am gael ei feirniadu na'i gywilyddio.
Yn ôl Dr Dunla Gallagher, aelod o'r tîm astudio: "Erbyn hyn, nid yw menywod beichiog yn bobl sy'n gyfrifol am eu hunain, ac mae stigma'n codi pan mae pobl eraill o'r farn y dylai menywod beichiog allu rhoi eu holl egni a'u blaenoriaethau ar y baban y maent yn ei gario, yn hytrach na'u hanghenion eu hunain. Fodd bynnag, prif nod y menywod hynny'n aml yw crafu byw ar incwm isel iawn, sy'n gryn her, ac roedd smygu'n ffordd o ymdopi ar gyfer rhai o'r menywod hynny.
"Yn hytrach na stigma, mae angen empathi ar fenywod, a chydnabyddiaeth o'r heriau sy'n codi yn sgîl beichiogrwydd, o ran dewisiadau annibynnol menywod.
Ychwanegodd Dr Grant: "Os ydym eisiau dylunio gwasanaethau fydd yn cael eu defnyddio'n gyson, a gwneud gwahaniaeth go iawn i ymddygiadau iechyd mamol, mae angen i ni ystyried y profiadau a'r heriau goddrychol y mae menywod beichiog yn eu hwynebu wrth drafod mathau derbyniol o famolaeth. O ganlyniad, bydd gennym bolisi ac ymarfer gwybodus, sy'n ymgysylltu â defnyddwyr posibl gwasanaethau iechyd, yn hytrach na'u hynysu."
Mae'r astudiaeth, 'Understanding health behaviours in pregnancy and infant feeding intentions in low-income women from the UK through qualitative visual methods and application to the COM-B model' wedi'i gyhoeddi yn BMC Pregnancy and Childbirth. Cafodd ei gefnogi gan Wellcome.
Mae'r data ynghylch smygu'n cael ei archwilio'n fanylach yn: 'Smoking during pregnancy, stigma and secrets: visual methods exploration in the UK' sydd wedi'i gyhoeddi yn Women and Birth.