NeTaflu goleuni newydd ar y gwaith o chwilio am MH370
11 Chwefror 2019
Mae syniadau newydd ynglŷn ag ymddygiad tonnau sain tanddwr wedi nodi dau leoliad newydd lle gallai awyren Malaysia Airlines MH370 sydd ar goll fod wedi gwrthdaro â'r môr.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cyflwyno'r lleoliadau eraill hyn ar sail cyfrifiannau newydd o'r modd y mae tonnau disgyrchiant acwstig yn rhyngweithio ag elastigedd, neu hyblygrwydd, gwely'n môr.
Mae'r ymchwil yn awgrymu dau leoliad posibl ar gyfer gwrthdaro ym mharth gogleddol Cefnfor India oddi ar Cape Leeuwin, Gorllewin Awstralia a Diego Garcia, sy'n rhan o Ynysfor Chagos.
Daeth y tîm, o dan arweiniad Dr Usama Kadri o'r Ysgol Mathemateg, i'w casgliadau ar ôl astudio signalau o feicroffonau tanddwr ar draws Cefnfor India.
Mae'r meicroffonau tanddwr, sy'n cael eu galw'n hydroffonau fel arfer, wedi'u dylunio i ganfod arwyddion o brofi niwclear yn y cefnforoedd, ond gellir eu defnyddio hefyd i synhwyro tonnau disgyrchiant acwstig.
Pan fyddwch yn gollwng carreg fach mewn llyn, mae tonnau dŵr yn cael eu cynhyrchu o leoliad y gwrthdrawiad, tra bod tonnau sain yn creu'r sŵn sblasio yr ydych yn ei glywed. Caiff math arall o don ei chynhyrchu o fewn y dŵr hefyd: hydroacwstig. Mae tonnau hydroacwstig yn symud lawer yn gynt drwy'r dŵr dwys nag y byddent drwy'r awyr.
Yn yr un modd, pan mae gwrthrych mawr, fel meteorit neu awyren, yn gwrthdaro'n ffyrnig ar wyneb cefnfor, mae'n cynhyrchu tonnau arwyneb eang, a theulu o donnau sain sy'n deillio o newid sydyn mewn pwysedd o'r enw tonnau disgyrchiant acwstig. Gall y rheini deithio miloedd o gilomedrau drwy'r dŵr, gan gludo gwybodaeth hanfodol ar ffynhonnell y gwrthdrawiad, cyn chwalu.
Mae ymchwil flaenorol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dangos y modd gellir defnyddio tonnau disgyrchiant acwstig i bennu'r union amser a lleoliad y mae gwrthrychau'n syrthio i'r cefnforoedd.
Ers hynny, bu'r tîm yn dadansoddi data a gymerwyd o hydroffonau yng Nghefnfor India ar 18 Mawrth 2014 pan aeth awyren Malaysian Airlines MH370 ar goll gyda 239 o bobl arni.
Mae eu hastudiaeth newydd, sydd wedi'i chyhoeddi mewn Scientific Reports, wedi adeiladu ar yr ymchwil hon ac erbyn hyn yn rhoi cyfrif am y modd y byddai hyblygrwydd gwely'r môr yn effeithio cyflymder tonnau disgyrchiant acwstig ar ôl gwrthdrawiad penodol yn y cefnfor.
Mae'r canfyddiadau'n awgrymu pan gaiff hynny ei ddwyn i ystyriaeth, gallai'r lleoliadau posibl ar gyfer gwrthdrawiad awyren MH370 fod ymhellach i ffwrdd o'r gorsafoedd hydroffonau na'r hyn a feddyliwyd i ddechrau.
Yn ôl Dr Usama Kadri: "Ers ein hawgrym cyntaf o ddefnyddio tonnau disgyrchiant acwstig i nodi amser a lleoliad gwrthdrawiadau yn y môr, mae ein hymchwil i'r tonnau hynny wedi symud ac erbyn hyn rydym wedi gallu nodi dau leoliad lle gallai awyren MH370 fod wedi gwrthdaro â'r môr, yn ogystal â llwybr gwahanol gallai'r awyren fod wedi'i gymryd.
"Mae cryn ansicrwydd ynghlwm wrth leoliad y signalau a ganfuwyd, ac mae'n dal i fod angen dadansoddiad manwl a gofalus pellach arnynt.
Mae'r Tîm Archwilio Diogelwch MH370 yn Malaysia wedi cael gwybod am y canfyddiadau newydd, ynghyd â Swyddfa Diogelwch Trafnidiaeth Awstralia, ac awdurdodau perthnasol eraill, yn y gobaith o ailgydio yn y gwaith o chwilio am yr awyren.