Is-Ganghellor am fynd i’r afael â phum problem fawr y byd
29 Medi 2015
Prifysgol Caerdydd yn lansio pum sefydliad
ymchwil blaenllaw newydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn adfywio ei hymrwymiad i ddatrys rhai o'r problemau
mwyaf dybryd sy'n wynebu dynoliaeth drwy sefydlu pum Sefydliad Ymchwil
blaenllaw newydd.
Nod y sefydliadau sydd newydd ei lansio fydd datblygu ffyrdd o wella clefydau
cronig mawr, lleihau troseddu a chynyddu diogelwch, defnyddio 'Data Mawr' i
fynd i'r afael â phroblemau go iawn y byd, datblygu dulliau callach o
ddefnyddio dŵr yng nghanol prinder cynyddol byd-eang, a chefnogi’r broses o
ddatblygu systemau ynni doethach.
Bydd arbenigwyr sy'n arwain y byd o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn rhannu eu
harbenigedd er mwyn datblygu atebion newydd ac arloesol i faterion byd anhydrin
sy’n cael effaith barhaus. Yn ogystal â chreu cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr
presennol, bydd y sefydliadau yn gwasanaethu i ddenu’r dalent ryngwladol orau i
Gaerdydd.
Drwy sefydlu’r rhain, bydd y nifer o Sefydliadau Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd
yn mwy na dyblu, gan ddod â’r nifer i gyfanswm o naw – daeth y pedwar cyntaf yn
weithredol yn 2011. Yn y pedair blynedd ers eu sefydlu, mae’r sefydliadau ymchwil
gwreiddiol wedi cymryd camau breision yn eu priod feysydd.
Er enghraifft, mae ymchwilwyr sy’n gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd
Canser Ewropeaidd (ECSCRI) yn y ddwy flynedd diwethaf yn unig wedi datblygu dau
gyffur arbrofol sy’n atal canser
gan ddefnyddio techneg modelu newydd drwy gymorth cyfrifiadur - sydd bellach
wedi'i thrwyddedu gan gwmni fferyllol yn y DU gyda’r bwriad o dreialu’r cyffur
ar bobl
Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y
broses o ddarganfod pan gaiff ei ddefnyddio fel
catalydd, bod gan aur y potensial i achub bywydau, gwella iechyd a glanhau’r
amgylchedd.
Mae eu cymheiriaid yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl
(NMHRI) yn parhau i adeiladu ar y darganfyddiad o 21 o enynnau a oedd yn
gysylltiedig â chlefyd Alzheimer
a mwy na 100 offactorau risg genetig sy’n gysylltiedig â sgitsoffrenia,
tra bod y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy yn parhau i ddatblygu dulliau
gwyddonol newydd o fyw'n fwy cynaliadwy.
Bydd y sefydliadau newydd – gan gynnwys 'y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data’, ‘y
Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau’, ‘y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch’
a’r ‘Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni’ - yn hollbwysig yn y gwaith o adeiladu ar
lwyddiant Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 a gododd Caerdydd i’r 5ed
safle yn y DU am ansawdd ei hymchwil, ac i’r 2il safle am effaith.
Yn ogystal, y gobaith yw y bydd y gweithgareddau ymchwil newydd hyn yn helpu i
ddatblygu nod strategol y Brifysgol o dorri drwodd i’r 100 uchaf yn y QS World
University Rankings erbyn 2017.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydym
am i’n sefydliadau newydd anfon neges glir bod gennym y màs critigol a’r
rhagoriaeth academaidd i wneud gwahaniaeth i broblemau mawr sy'n wynebu
dynoliaeth, ac yn y meysydd hyn, rydym yn bwriadu arwain y byd.
"Yn yr amser byr ers i’r sefydliadau gwreiddiol gael eu sefydlu yn 2011,
mae eu gwaith arloesol mewn meysydd sy'n amrywio o ddarganfod cyffuriau i
glefydau niwrolegol eisoes wedi dangos cryfderau a bwriadau Caerdydd fel
Prifysgol fyd-eang.
"Mae'n bwysig bod ein gwaith ymchwil yn parhau i gynnig atebion i’r heriau
mwyaf sy'n bygwth ein dyfodol, ac rwyf yn hyderus y gallwn lwyddo, drwy
ganolbwyntio ein hymdrechion ar y meysydd newydd hyn."
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC: "Mae
gan Brifysgol Caerdydd hanes cryf o wneud gwaith ymchwil o'r radd flaenaf sy’n
cael effaith gymdeithasol ac economaidd, ac sy’n gwneud cyfraniad cryf at
uchelgais Llywodraeth Cymru i gael sail gwyddoniaeth gryfach.
“Bydd y sefydliadau ymchwil newydd hyn yn dod ag academyddion o amrywiaeth o
ddisgyblaethau ynghyd i fynd i'r afael â’r heriau sy'n wynebu cymdeithas, yr
economi a'r amgylchedd.”
Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ac Athro Prifysgol Caerdydd, Julie
Williams: "Dangosodd canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod
ymchwilwyr yng Nghymru ymysg y gorau yn y DU a'r byd. Mae Prifysgol Caerdydd yn
chwarae rhan amlwg yn hynny, oherwydd, yn yr un adolygiad, roedd ymysg y pum
Prifysgol orau ar gyfer ymchwil a rhagoriaeth, ac yn ail yn y DU am effaith.
"Bydd y sefydliadau ymchwil blaenllaw hyn yn sicrhau bod rhagoriaeth mewn
gwaith ymchwil yn cael ei throi'n atebion newydd i rai o'r problemau mwyaf sy'n
wynebu cymdeithas heddiw."
Cynhelir digwyddiad lansio yn Adeilad y Pierhead
ym Mae Caerdydd ar 29 Medi (6pm-8pm) i gyflwyno’r sefydliadau ymchwil blaenllaw
newydd.