Trethdalwyr yn talu mwy o arian am lai o wasanaethau, yn ôl adroddiad
7 Chwefror 2019
Mae ymchwil yn dangos bod trethdalwyr yng Nghymru yn talu mwy o arian am lai o wasanaethau gan fod awdurdodau lleol yn ceisio llenwi’r bwlch ariannu o bron i £1 biliwn.
Mae'r adroddiad diweddaraf gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn dangos bod awdurdodau lleol Cymru wedi derbyn gwerth £918.5m yn llai mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn 2017-18, o'i gymharu â 2009-10.
Yn ôl ymchwilwyr, mae’r toriadau’n deillio o ostyngiad yng ngwariant Llywodraeth y DU a bod awdurdodau lleol wedi bod yn cynyddu cyfraddau treth y cyngor yn raddol mewn ymateb i hynny. Fodd bynnag, dim ond yn rhannol y mae hyn wedi llenwi’r diffyg, gan adael cynghorau â £577m yn llai yn 2017-8, o'i gymharu â 2009-10.
O ganlyniad, fe wnaeth gwariant ar wasanaethau cyhoeddus ostwng 10.4% dros y cyfnod hwnnw - sy'n cyfateb i £232 yn llai yn cael ei wario ar bob person yng Nghymru.
Prosiect Dadansoddi Cyllid Cymru a gyhoeddodd y wybodaeth hon. Edrychodd ymchwilwyr ar ddata gwariant a refeniw’r llywodraeth leol ers 2009. Daw eu canfyddiadau wrth i awdurdodau lleol yng Nghymru gyhoeddi eu cyllidebau a gosod lefelau y treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dywedodd Guto Ifan, Cynorthwy-ydd Ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru: “Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu sut mae bron i ddegawd o lymder wedi newid patrymau ariannu a gwariant awdurdodau lleol yng Nghymru yn sylweddol. Mae'n amlwg o'n canfyddiadau bod trethdalwyr yn talu mwy o arian am lai o wasanaethau mewn gwirionedd...”
Mae penawdau arwyddocaol eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:
- Yn 2017-8, roedd treth y cyngor i’w gyfrif am 19% o incwm gros awdurdodau lleol, o’i gymharu ag 13.8% yn 2009-10.
- Mae gwariant ysgolion fesul disgybl £324 (5.5%) yn is mewn termau real nag yn 2009-10*;
- Er iddo gynyddu y llynedd, mae gwariant fesul person ar ofal cymdeithasol i oedolion hŷn (dros 65 oed) wedi gostwng £157 (14.8%) ers 2009-10;
- Mae gwariant ar blant mewn gofal wedi cynyddu £95.9 miliwn (33.2%) mewn termau real ers 2009-10, ac ar yr un pryd, mae 1,710 (36.4%) yn rhagor o blant mewn gofal;
- Mae gwariant ar wasanaethau cymdeithasol **, maes cyflenwi ‘wedi’u gwarchod', wedi cynyddu £106.4m (6.5%) mewn termau real. Erbyn hyn, mae cynghorau 73% yn gwario 73% o’u cyllideb ar wasanaethau cymdeithasol ac addysg, o'i gymharu â 68% ddegawd yn ôl;
- Yn ystod yr un cyfnod, mae gwasanaethau 'heb eu gwarchod' yn cael eu heffeithio. Bydd 55.4% yn llai o arian yn cael ei wario ar gynllunio a datblygu economaidd, 36.3% yn llai ar lyfrgelloedd, diwylliant, chwaraeon a hamdden, a 28.5% yn llai ar drafnidiaeth.
- Mae 37,000 o swyddi Llywodraeth Leol wedi'u colli yng Nghymru yn y cyfnod hwn, sy'n cyfateb i 19.9% o gyfanswm y gweithlu. Dylid nodi bod awdurdodau yng Nghymru wedi cael gwared ar lai o swyddi na Lloegr (32.4%) neu'r Alban (20.6%).
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi llai o arian i awdurdodau lleol mewn ymateb i doriadau yn y gyllideb a ddyrannwyd gan Lywodraeth y DU. Er bod eu cyllideb yn debygol o dyfu dros y pum mlynedd nesaf, mae ymchwilwyr yn dweud y caiff unrhyw gynnydd ei ddyrannu i feysydd blaenoriaeth uchel fel y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yn ôl pob tebyg.
Ychwanegodd Guto Ifan: “Mae'r canlyniadau'n dangos mai meysydd o wariant lleol ‘heb eu gwarchod’ sydd wedi cael eu heffeithio gwaethaf gan y toriadau hyn. Er mwyn osgoi toriadau mawr pellach yn y meysydd hyn, bydd angen cynyddu’r Dreth Gyngor yn gyflymach, gan gyfyngu ar dwf mewn meysydd gwariant eraill, neu gynyddu maint cyllideb Cymru drwy bwerau treth newydd Cymru. Nid yw'r un o'r opsiynau hyn yn hawdd yn wleidyddol.
“Mae angen trafodaeth ddifrifol am ddyfodol cyllid Llywodraeth Leol ac arian cyhoeddus Cymru yn gyffredinol. Rhaid i lunwyr polisi fynd ati nawr i ystyried pa wasanaethau y dylai cynghorau lleol eu cynnig yn y dyfodol, ac efallai hyd yn oed yn bwysicach, sut y telir amdanynt.”
* Mae cyllid ysgolion wedi cynyddu ond mae twf yn nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd yn golygu bod y ffigur fesul disgybl wedi gostwng.
**Ac eithrio gwariant ar Ddechrau'n Deg.