Ewch i’r prif gynnwys

All hanes ailadrodd ei hun yn NUE 2019?

5 Chwefror 2019

Neon sign of praying hands
School hopeful of repeat NUE success in 2019

Mae dau o israddedigion Ysgol Fusnes Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Cyflogadwyedd Cenedlaethol i Israddedigion (NUE).

Daw’r enwebiadau flwyddyn ar ôl i Elizabeth Pescud a Ryan Hale sicrhau cydnabyddiaeth genedlaethol am eu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy fachu’r gwobrau am y myfyriwr Gorau ar Leoliad a’r Intern Gorau yn 2018.

Eleni, mae Callum Mcintosh, myfyriwr israddedig blwyddyn olaf sy'n astudio BScEcon Cyfrifo a Rheoli gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol, yn un o bump o fyfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig yn rhedeg ar gyfer gwobr y Myfyriwr Gorau ar Leoliad, sy’n cydnabod cyfraniad anhygoel myfyrwyr i fusnesau ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae'r wobr yn dathlu’r effaith wirioneddol, fesuradwy mae myfyriwr wedi’i chael ar y busnes sy’n eu croesawu ar leoliad.

Effaith sylweddol

Treuliodd Callum ei Flwyddyn ar Leoliad yn Nissan, yn Gydlynydd Gwasanaethau Cwsmeriaid, lle roedd ei dasgau o ddydd i ddydd yn seiliedig ar weithrediad a rheolaeth swyddfa flaen a chefn timau gwasanaeth cwsmeriaid Nissan.

Dywedodd Luke Burch, rheolwr llinell Callum yn Nissan: “Yn ystod cyfnod Callum gyda ni cafodd effaith sylweddol...”

“Roedd hyn yn amrywio o welliannau yn effeithlonrwydd ac ansawdd prosesau adrannau, ysgogi gwelliannau o ran boddhad cwsmeriaid, i fentrau a arweiniodd at arbedion cost sylweddol ar gyfer y sefydliad.”

Luke Burch Rheolwr llinell Callum yn Nissan

Mae Lily Rose Fenn, myfyriwr israddedig trydedd flwyddyn sy’n astudio BSc mewn Rheoli Busnes gyda Lleoliad Gwaith integredig, hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer, a bydd yn cystadlu yn erbyn pedwar arall am Wobr yr Intern Gorau, sy’n uchel iawn ei bri.

Yn weithiwr delfrydol

Mae categori’r Intern Gorau yn dathlu myfyrwyr sydd wedi rhagori ar y disgwyliadau yn ystod eu lleoliad, gan greu effaith ar eu hadran neu ar y busnes ei hun.

Cwblhaodd Lily ei Lleoliad Gwaith Integredig yn Rhys Davies Logistics lle bu’n cynorthwyo gyda rhoi system newydd ar waith, a fyddai’n cael ei defnyddio’n ddatrysiad tracio ac olrhain.

“Yn ystod ei chyfnod gyda ni, datblygodd Lily yn aelod gwerthfawr o dîm y prosiect. Bu’n ymgysylltu'n llwyddiannus ag amrywiaeth o randdeiliaid yn ystod gweithrediad prosiect TG mwyaf y busnes erioed.”

Gavin Tyler Rheolwr llinell Lily yn Rhys Davies Logistics

“Mewn llawer o ffyrdd, mae Lily wedi bod yn weithiwr delfrydol.”

Dywedodd Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau Ysgol Fusnes Caerdydd: “Rwyf wrth fy modd bod NUE unwaith eto wedi cydnabod ein myfyrwyr dawnus a’u cyfraniad i’r sefydliadau sy’n eu croesawu...”

“Rydw i mor falch o Callum a Lily-Rose, sydd wedi gwneud gwaith mor wych yn ystod eu rhaglenni interniaeth a lleoliad. Roeddem yn ddigon ffodus i fachu dwy wobr y llynedd, felly rydyn ni’n gobeithio ailadrodd y llwyddiant hwnnw yn 2019!”

Alex Hicks Placement Manager

Mae 2019 yn nodi dengmlwyddiant y gwobrau, a rennir yn rhestrau byr ar gyfer Cyflogwyr, Prifysgolion a Myfyrwyr, ac maen nhw’n meincnodi ‘llwyddiant ar draws yr holl sefydliadau, prifysgolion a myfyrwyr yn y farchnad gyflogadwyedd israddedig’.

Bydd y Gwobrau NUE yn cael eu cynnal yn Llundain ddydd Gwener 1af Mawrth 2019.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.