Athro yn yr Ysgol yn un o gyd-awduron adroddiad arloesol am gyfranogiad i ymchwil llygaid gan y GIG
5 Chwefror 2019
Mae’r Athro Marcela Votruba, o’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, wedi cyd-ysgrifennu adroddiad ymchwil sydd wedi datgelu bod cleifion gyda clefyd y llygaid bellach yn cael mwy o gyfle nag erioed i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil y GIG.
Yn ôl yr adroddiad, mae 76% o ysbytai'r DU bellach yn cynnig cyfle i gleifion gymryd rhan mewn astudiaethau am glefyd y llygaid i wella ymchwil ac arloesedd yn y maes.
Nod yr adroddiad oedd taflu goleuni ar waith rhyfeddol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), cangen ymchwil y GIG, wrth hyrwyddo a meithrin yr angen am don newydd o ymchwil offthalmig.
Mae buddsoddiad anfasnachol a masnachol wedi golygu bod cyfartaledd o 15,500 o gleifion y flwyddyn bellach yn cael cynnig triniaethau arloesol ar gyfer clefydau cyffredin sy'n newid bywydau megis glawcoma, dirywiad macwlaidd yn gysylltiedig ag oedran a retinopathi diabetig.
Ar hyn o bryd, mae ymchwil offthalmoleg ond yn derbyn 1% o wariant ymchwil y DU, sef £2,025 miliwn, ond mae'n dal i achosi twf mawr mewn astudiaethau colli golwg ym mhortffolio ymchwil y GIG. Mae'r adroddiad felly'n tynnu sylw at yr angen am strategaeth hirdymor a mwy o gymorth ariannol ym maes iechyd llygaid.
Mae'r Athro Votruba yn hyderus y bydd y canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyllid pellach ar gyfer ymchwil iechyd llygaid yn y DU.
Dywedodd Marcela: "Mae colli golwg yn costio mwy na £28 biliwn y flwyddyn i economi'r DU ac nid yw'n flaenoriaeth ymchwil o hyd. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yr angen am strategaeth hirdymor o fuddsoddi ac eiriolaeth ar gyfer ymchwil llygaid sy'n cynnwys y llywodraeth gyfan a'r sectorau anllywodraethol. Mae ymchwil offthalmig eisoes yn cynnig canlyniadau rhagorol sydd wedi helpu nifer di-ri o bobl â phroblemau golwg. Byddai cynyddu’r arian ar gyfer ymchwil offthalmig ymhellach yn ein helpu i sicrhau canlyniadau hyd yn oed yn well i fynd i'r afael â materion golwg a cholli golwg ar gyfer mwy o bobl".
Cyhoeddwyd yr adroddiad yn Eye, cyfnodolyn gwyddonol Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, darllenwch y papur llawn yma.