Astudiaeth newydd yn profi llwyddiant y gefnogaeth i rieni sydd â phlant sy’n cael eu rhoi mewn gofal
8 Chwefror 2019
Mae cynllun sy’n cefnogi rhieni sydd wedi cael plant sydd wedi'u rhoi mewn gofal wedi cael ei ganmol gan academyddion o Brifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am ei werthusiad annibynnol cyntaf.
Bu Dr Louise Roberts, o'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE), yn arwain asesiad o un o’r cynlluniau Reflect cyntaf, sydd wedi cael eu cynnal gan Barnado’s Cymru yng Ngwent ers 2016.
Nod Reflect yw rhoi’r gefnogaeth angenrheidiol i fenywod a’u partneriaid i wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau ac osgoi bod yn ymwelwyr cyson â’r llysoedd teulu.
Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth fod rhai rhieni wedi cael cymorth i ddod o hyd i lety diogel, osgoi perthnasoedd afiach neu ymdrin â chamddefnyddio sylweddau. Roedd eraill, a fyddai wedi bod yn rhy bryderus i adael y tŷ cyn hynny, wedi dechrau cymdeithasu unwaith eto, wedi dechrau gwirfoddoli neu wedi datblygu ffordd iachach o fyw.
Dywedodd Dr Roberts, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae’r canfyddiadau'n cynnig tystiolaeth galonogol fod y gwasanaeth newydd yn cael effaith gadarnhaol ar rieni sy’n agored iawn i niwed.
“Tynnwyd sylw at anghenion lefel uchel ac amlweddog menywod a’u partneriaid yn yr ymchwil, ac yn aml roedd y broses o feithrin perthnasau ac o ymddiried yn cymryd amser ac yn gryn her. Roedd ymagwedd sensitif, barchus ac anfeirniadol gweithwyr Reflect yn bwysig i oresgyn y rhwystrau hyn ac roedd gallu’r gwasanaeth i gynnig cefnogaeth ymarferol yn ogystal ag emosiynol yn werthfawr dros ben.
“Roedd y rhieni yn gwerthfawrogi cael rhywun ‘wrth eu hochr’ ac fe wnaeth y menywod a’u partneriaid gamau bach a mawr tuag at newid cadarnhaol.”
Mae gwerthusiad o un o brosiectau peilot Reflect yn dod ar adeg pan mae gwasanaethau tebyg yn cael eu cyflwyno ledled Cymru gyda chymorth ariannol o £850,000 gan Lywodraeth Cymru. Caiff rhieni eu cefnogi am hyd at ddwy flynedd ac maent yn cael cymorth wedi’i deilwra sy’n amrywio o gwnsela a magu hyder i reoli dyledion.
Dywedodd James Saunders, Rheolwr Gwasanaethau Plant gyda Barnardo’s Cymru: “Mae Reflect wedi cynnig cefnogaeth ymarferol a therapiwtig i rieni, gan eu helpu i wneud newidiadau hirdymor, cadarnhaol o fewn eu bywydau. Ar gyfer y rhieni hynny sydd wedi dod at ddiwedd y rhaglen Reflect, yn ystod y cyfnod gwerthuso rydym wedi gweld cynnydd yn eu hunanhyder, gwydnwch a’u cred yn eu hunain ac mewn dyfodol cadarnhaol.”