Gwobrau rhyngwladol i academyddion o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
1 Chwefror 2019
![Mike Edmunds yn derbyn Gwobr Ryngwladol Giuseppe Sciacca am Ffiseg](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0015/1430502/mike-edmunds-receives-award.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae'r Athro Mike Edmunds a'r Athro Matt Griffin wedi derbyn gwobrau rhyngwladol nodedig am eu gwaith ymchwil.
Derbyniodd yr Athro Emeritws Edmunds Wobr Ryngwladol Giuseppe Sciacca am Ffiseg gan y Gymdeithas Diwylliant a Gwaith Gwirfoddol Ryngwladol mewn seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Archesgobol Urbaniana, Dinas y Fatican, Rhufain ym mis Hydref 2018.
Mae'r wobr hon yn cydnabod pobl sydd wedi gwneud enw iddynt eu hunain mewn amrywiol feysydd gwybodaeth a chelf, ac sydd wedi bod yn enghraifft foesol ac addysgol yn natblygiad cymdeithas. Cafodd yr Athro Edmunds y wobr i gydnabod ei ymchwil a'i waith ymgysylltu cyhoeddus ar Fecanwaith Antikythera. Darganfuwyd yr arteffact gwerthfawr hwn yn 1900, mewn llongddrylliad ym Môr y Canoldir o'r ganrif gyntaf CC. Roedd ei swyddogaeth a'i weithrediad yn aneglur tan i'r Athro Edmunds a'i gydweithwyr ddangos, gan ddefnyddio technegau delweddu pelydr-x datblygedig, mai dyma'r peiriant cyfrifo seryddol hynaf y gwyddys amdano, dyfais ag iddo soffistigeiddrwydd technegol a mathemategol rhyfeddol, a newidiodd ein dealltwriaeth o elfennau allweddol o ddiwylliant hynafol Groeg.
Dywedodd yr Athro Edmunds: "Rwyf i wrth fy modd gyda'r gydnabyddiaeth hon o arwyddocad gwyddonol a diwylliannol mecanwaith Antikythera, a'r gwaith rwyf i a fy nghydweithwyr wedi'i wneud i ddatgelu ei gyfrinachau."
Derbyniodd yr Athro Griffin o Grŵp Offerwaith Seryddiaeth yr Ysgol radd er anrhydedd (Docteur Honoris Causa) gan yr Université Aix-Marseille ym mis Tachwedd 2018, i gydnabod ei rôl fel Prif Ymchwilydd offeryn Herschel-SPIRE, yn arwain consortiwm rhyngwladol o ddeunaw sefydliad mewn wyth o wledydd. Caiff y radd ei chyflwyno i'r rheini sydd wedi ymgymryd ag ymchwil nodedig mewn cydweithrediad â'r Université Aix-Marseille. Ymhlith y ffisegwyr sydd wedi derbyn anrhydedd Docteur Honoris Causa gan Aix-Marseille yn y gorffennol mae Syr John Pendry a'r Enillydd Gwobr Nobel Saul Perlmutter.
![Matt Griffin yn derbyn gradd Docteur Honoris Causa ym Marseille.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1430492/matt-griffin-receives-award.jpg?w=575&ar=16:9)
SPIRE oedd un o dri offeryn gwyddonol a fu'n hedfan ar Arsyllfa Ofodol Herschel Asiantaeth Ofodol Ewrop, oedd yn gweithredu'n hynod o lwyddiannus rhwng 2009 a 2013, gan arsyllu’r Bydysawd ar donfeddi isgoch pell sy'n cael eu rhwystro gan atmosffer y Ddaear.
Mae gan yr Athro Griffin a Grŵp Offerwaith Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd hanes hir o gydweitho gyda'r Laboratoire D’Astrophysique de Marseille (LAM), ar Herschel a phrosiectau gwyddonol eraill. Cynlluniodd gwyddonwyr a pheirianwyr LAM system optegol SPIRE gan adeiladu mecanwaith trachywir ar gyfer sbectromedr yr offeryn.
Wrth dderbyn yr anrhydedd, pwysleisiodd yr Athro Griffin werth y cydweithio hirsefydlog rhwng grwpiau Caerdydd a Marseille, gan ganmol ansawdd cyfranogiad technegol a gwyddonol peirianwyr a gwyddonwyr Marseille ym mhrosiect SPIRE. Pwysleisiodd ei fod yn ystyried y wobr yn gydnabyddiaeth i ymdrechion a chyflawniad y tîm rhyngwladol mawr iawn oedd yn sicrhau bod Herschel a SPIRE yn bosibl.