Cemeg y bloc-p
1 Chwefror 2019
Mae Dr Rebecca Melen yn awdur ar erthygl ar gemeg y bloc-p fel rhan o ddathliad cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw o Flwyddyn Ryngwladol y Tabl Cyfnodol.
Yn 2019, bydd 150 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers trefnu'r elfennau'n dabl ar ffurf y System Gyfnodol gan Dmitiri Mendeleev, ac mae hynny'n cael ei ddathlu fel Blwyddyn Ryngwladol y Tabl Cyfnodol. Fel rhan o'r dathliad hwn, mae'r cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw, Science, wedi casglu erthyglau ac adolygiadau ynghyd sy'n amlygu cynnydd a chanfyddiadau allweddol mewn gwahanol feysydd o'r tabl cyfnodol. Dewiswyd Dr Rebecca Melen, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd Ymchwil EPSRC ar Ddechrau ei Gyrfa yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, i ysgrifennu erthygl ar gemeg y bloc-p.
O'r 63 elfen oedd yn hysbys ym 1869, roedd bron i draean ohonynt yn perthyn i'r bloc-p, ac roedd Mendeleev wedi darogan bod elfennau eraill yn bodoli, nad oeddynt wedi'u canfod ar y pryd. Mae gan elfennau'r bloc-p hanes o wahaniaeth ac amrywiaeth. Maent ymysg rhai o'r elfennau hynaf sydd wedi'u canfod, megis plwm a thun, yn ogystal â rhai o'r canfyddiadau elfennol mwyaf diweddar fel tennessine a nihonium. At hynny, mae'n 350 o flynyddoedd yn 2019 ers i'r alcemydd Henning Brand ddarganfod ffosfforws ym 1669. Dim ond yn lled ddiweddar y cafodd P ei roi ym mloc-p y tabl cyfnodol.
Mae deall cyfnodoldeb cemegol yn allweddol i ddeall a rhesymoli ymddygiad cemegol ac eto, o fewn y bloc-p, mae strwythur cemegol, adweithiant a phriodweddau'n amrywio'n eang. Mae'r diffyg ymddangosol hwn mewn cyfundrefniad a threfn wedi arwain at y gred gyffredin bod elfennau'r bloc-p yn arddangos casgliad o adweithiant amherthynol.
Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o gemegwyr wedi ceisio ennyn gwell dealltwriaeth o adweithiant bloc-p, yn enwedig y modd y mae'r elfennau hynny na chânt eu canfod fel arfer mewn systemau biolegol ('organig') yn ymddwyn. Mae adolygiad Dr Melen yn Science yn amlygu terfynau presennol cemeg bloc-p o strwythur sylfaenol i adweithiant newydd a chymwyseddau sy'n dod i'r fei.