Ewch i’r prif gynnwys

Mae chwaraeon yn cyfrif

22 Ionawr 2019

Woman discussing image displayed on whiteboard
Yr Athro McAllister yn olrhain dechreuadau pêl-droed merched yng Nghymru

Dechreuodd y gyntaf o Sesiynau Briffio Brecwast Ysgol Fusnes Caerdydd 2019 drwy wrth-ddweud gan i'r Athro Laura McAllister gyhoeddi: “mae chwaraeon yn bwysig oherwydd nad ydyn nhw'n bwysig!”

Ac felly y dechreuodd dosbarth meistr yng nghymhlethdodau chwaraeon a llywodraethiant, a hynny gan arbenigwr Canolfan Llywodraethiant Cymru mewn Polisi Cyhoeddus.

Dyma’r Athro McAllister, sy'n gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru a chapten y tîm cenedlaethol gyda 24 o gapiau, yn dweud wrth gynulleidfa lawn y sesiwn friffio fod gan chwaraeon le unigryw yn ein seice cenedlaethol, ein hymwybyddiaeth dorfol, yn enwedig mewn cenedl fach fel Cymru, ac mai dyna pam maen nhw mor ddylanwadol.

Pŵer gwahanol sydd heb gael ei ddefnyddio’n llawn

Gan dynnu ar ei phrofiadau fel Cadeirydd Chwaraeon Cymru, fel Aelod o fwrdd UK Sport ac fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru, dadleuodd yr Athro McAllister fod gan chwaraeon, i genedl fel Cymru, bŵer gwahanol sydd heb gael ei ddefnyddio’n llawn eto.

“Mae pobl yn aml yn dweud nad oes Pwynt Gwerthu Unigryw deniadol gyda ni. Wel, fe allai chwaraeon lenwi'r bwlch hwnnw. Ac ar ôl Brexit, os yw'n digwydd, yna'n sicr fe fydd ei angen arnon ni er mwyn dangos ein bod ni'n genedl sy'n gallu gwneud mwy na'r disgwyl o ystyried ein maint ar bethau fel masnach a pholisi...”

“Mae chwaraeon mor bwysig i Gymru, mae'n ffordd o'n gwneud ni’n unedig ar adeg pan ydyn ni'n genedl sy'n mynd yn fwy rhanedig o hyd – o ran yr UE a Brexit, o ran gobeithion economaidd, o ran cyfleoedd addysgol ac o ran cyfleoedd bywyd.”

Yr Athro Laura McAllister Professor of Public Policy

Cyd-fynd â'r gymdeithas

Rhannodd yr Athro McAllister wersi o'i phrofiadau mewn rolau arweinyddiaeth ar draws chwaraeon Cymru, gan sôn am angerdd, bywyd silff, y gallu i ragweld a'r angen i chwaraeon gyd-fynd â'r gymdeithas.

Er mwyn i hyn ddigwydd, dadleuodd fod angen i chwaraeon gael eu cymryd o ddifrif, mae angen iddyn nhw fod yn amrywiol, mae angen i'r arweinyddiaeth fod yn effeithiol. Dim ond wedyn y byddan nhw'n chwarae eu rhan allweddol wrth ymateb i rai o'r heriau mwyaf anodd eu trin yn ein cyfnod ni: iechyd meddwl, gordewdra phlant a chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Man speaks to audience
Dr Clive Grace yn agor y sesiwn friffio i'r mynychwyr holi cwestiynau

Yn dilyn cyflwyniad yr Athro McAllister, gwahoddodd Dr Clive Grace, a gadeiriodd y digwyddiad, y gynulleidfa i holi cwestiynau. Wedyn rhannodd y cyn-chwaraewr rhyngwladol ei barn ar faterion yn cynnwys: aelodaeth byrddau chwaraeon, chwaraeon mewn ysgolion, chwaraeon elît ac amatur, cyfleusterau, iechyd meddwl a dyletswydd gofal.

Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Briffio Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech chi'n gallu dod, edrychwch ar y ffrwd fyw hon o'r digwyddiad.

Mae'r sesiwn friffio nesaf, o'r enw The Magnificent Seven, ddydd Mawrth 19 Chwefror 2019 a bydd Darrell Mann yn ystyried beth mae oes deallusrwydd artiffisial yn ei olygu i'r diwydiant gwasanaethau ariannol.

I gael lle, cofrestrwch nawr.

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.