Mae heneiddio yn niweidio celloedd ategol yr ymennydd
31 Ionawr 2019
Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd, gall heneiddio achosi niwed i’r celloedd ategol yn y gwynnin a allai, yn ei dro, arwain at niwed ym mreithell yr hipocampws.
Mae’r darganfyddiad yn rhoi maes newydd i ymchwilwyr ganolbwyntio arno wrth chwilio am driniaethau sy’n gallu amddiffyn gweithrediad gwybyddol.
Dywedodd Claudia Metzler-Baddeley, o Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd: “Mae’r ymennydd wedi’i ffurfio o wynnin a breithell. Tra bod breithell yn cynnwys celloedd niwronal, sy’n gwneud cyfrifiannau yn ein hymennydd, mae’r breithell yn cynnwys cysylltiadau a chelloedd ategol sy’n helpu’r cyfathrebu rhwng gwahanol rannau.
“Yn ogystal â chadarnhau bod heneiddio yn arwain at ddirywiad breithell yn yr hipocampws a dirywiad gwynnin yn yr ardal gyfagos, mae ein hastudiaeth newydd hefyd yn datgelu’r berthynas achosol rhwng y ddau.
Gan ddefnyddio dull a elwir yn ddadansoddiad cyfryngu, gwnaethom ddarganfod bod heneiddio’r gwynnin yn gyfrifol am heneiddio breithell yr hipocampws, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb. Mae ein canfyddiadau’n awgrymu y gallai’r niwed i’r celloedd ategol effeithio ar iechyd meinweoedd yn yr hipocampws, rhan sy’n bwysig iawn ar gyfer y cof ac sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer.
Cynhaliwyd yr astudiaeth, a edrychodd ar ymennydd 166 o wirfoddolwyr iach, gan ddefnyddio technegau delweddu’r ymennydd o’r radd flaenaf yn CUBRIC a gafodd ei gyd-ariannu gan Gymdeithas Alzheimer ac elusen Alzheimer BRACE.
Mae’r ymchwil ‘Fornix white matter glia damage causes hippocampal gray matter damage during age-dependent limbic decline’ wedi’i chyhoeddi yn Scientific Reports.