Lansio cyfres newydd ar weithiau blaenllaw yn y gyfraith
31 Ionawr 2019
Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf mewn casgliad newydd Leading Works in Law, sy'n cynnwys penodau gan staff o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Mae'r gyfrol, Leading Works in Law and Religion, yn cynnwys penodau gan yr Athro Russell Sandberg, Dr Sharon Thompson ac aelodau o Ganolfan y Gyfraith a Chrefydd yr Ysgol, Frank Cranmer, David Pocklington ac Ed Morgan.
Cyhoeddir y gyfres Leading Works gan Routledge a'r bwriad yw edrych ar ddatblygiad y gyfraith ac is-ddisgyblaethau'r gyfraith drwy daflu goleuni beirniadol ar y ffordd maen nhw'n eu deall eu hunain ac yn parhau eu hunaniaeth. Bydd pob llyfr, a gaiff eu creu a’u golygu gan yr Athro Sandberg, yn canolbwyntio ar is-ddisgyblaeth wahanol yn y gyfraith gan ofyn i ysgolheigion blaenllaw a newydd yn y maes ddewis a dadansoddi 'gwaith blaenllaw' a sut mae wedi neu sut y dylai fod wedi effeithio ar ddatblygiad yr is-ddisgyblaeth.
Dywedodd yr Athro Sandberg: "Mae ysgolion y Gyfraith ar hyn o bryd yn mynd drwy newid sylweddol ac yn wynebu nifer o heriau. Mae'n bwysicach nag erioed felly i ni gymryd cam yn ôl a dadansoddi sut mae meysydd y gyfraith wedi datblygu, beth maent wedi'i gynnwys a'i hepgor a sut y gallant ddatblygu yn y dyfodol. Mae cyfres Leading Works yn cynnig ffordd arloesol o wneud hynny'n union. Dyma'r hyn sy'n cyfateb yn y byd academaidd i Desert Island Discs!”
Mae Leading Works in Law and Religion yn edrych ar faes datblygol y Gyfraith a Chrefydd gyda'r Athro Sandberg yn dadlau y gallai'r cynnydd mewn cyfnodolion a chynadleddau arbenigol fod wedi arwain at 'getoeiddio''r maes, gydag arbenigwyr y Gyfraith a Chrefydd yn peidio â rhyngweithio â datblygiadau ehangach yn y Gyfraith a disgyblaethau cytras eraill. Mae penodau yn y casgliad yn amlygu gwerth ymagweddau rhyngwladol, hanesyddol a ffeministaidd sydd â'r potensial i oresgyn hyn.
Dywedodd yr Athro Sandberg, "Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen datblygiad y Gyfraith a Chrefydd fel maes astudio yn y DU. Mae’n briodol felly fod y gyfrol gyntaf yn y gyfres yn ailedrych ar hyn ac ar sut y gall y Gyfraith a Chrefydd ddatblygu o'r fan hon. Mae'r gyfrol yn cynnwys penodau angerddol a phryfoclyd yn aml gan rai o'r meddylwyr gorau yn y maes. Rwyf i'n arbennig o ddiolchgar i'r Athro John Witte o Brifysgol Emory sy'n gyfaill da i Gaerdydd am ddarparu diweddglo i'r gyfrol."
Y gobaith yw y bydd casgliad Leading Works ymhen amser yn cynnwys cyfrol ar bob un o is-ddisgyblaethau'r gyfraith. Mae nifer o gyfrolau pellach yn y gyfres ar hyn o bryd dan gontract neu adolygiad ond os oes gennych chi ddiddordeb mewn golygu cyfrol yn y gyfres yn y dyfodol cysylltwch â'r Athro Sandberg