Llwyddiant gweithdy India
30 Ionawr 2019
![A group of individuals pose in room](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/1429075/Professor-Syntetos-and-Dr-Rostami-Tabar-pose-with-workshop-participants.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae gweithdy tri diwrnod wedi dod ynghyd ag academyddion ac ymarferwyr ar gyfer hyfforddiant, ymchwil a gosod agendâu ym maes rhagfynegi er lles cymdeithasol yn Sefydliad Rheoli Kozhikode India (IIMK), Kerala.
Yn y digwyddiad, o dan arweiniad Dr Bahman Rostami-Tabar a'r Athro Aris Syntetos o Ysgol Busnes Caerdydd, cymerodd mynychwyr ran mewn gweithdy rhyngweithiol yn rhanbarth fwyaf deheuol India.
Roedd y tri diwrnod a ariannwyd gan Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-Eang (GCRF) ac a hyrwyddwyd gan Wudi, busnes technoleg gymdeithasol sydd newydd gychwyn, yn galluogi'r mynychwyr i adnabod cyfleoedd ar gyfer defnyddio rhagfynegi i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau mewn mudiadau sydd â chenadaethau cymdeithasol ledled India.
Ar ôl proses ymgeisio gystadleuol, lle derbyniwyd 80 o geisiadau, dewiswyd 27 o fynychwyr o sectorau a oedd yn cynnwys: trychinebau ac adfer, addysg, y llywodraeth, gofal iechyd, sefydliadau anllywodraethol a gwasanaethau cymdeithasol.
![Man leads group discussion](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/1429078/Professor-Syntetos-guides-participants-through-day-one-of-the-workshop.jpg?w=575&ar=16:9)
Arweiniodd yr Athro Syntetos y diwrnod cyntaf a dangos pwysigrwydd rhagfynegi fel cymorth i gynllunio ac i wneud penderfyniadau. Dangosodd dechnegau rhagfynegi syml i'r mynychwyr a phwysleisio pwysigrwydd gwerthuso ar gyfer cywirdeb a goblygiadau eraill a ysgogwyd gan y broses.
Ar yr ail ddiwrnod traddododd tri siaradwr arbenigol ddarlithoedd fideo i'r mynychwyr. Clywon nhw gan:
- Dr Rohan Nelson o Lywodraeth Awstralia;
- Mr Peter Smeeth, rheolwr dadansoddol yr Uned Gyflawni, GIG Cymru;
- A Mr Syed Mohsen Hashemi Najafi, cydlynydd cadwyni cyflenwi ym Mhwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (ICRC).
Roedd y cyflwyniadau'n cynnig elfen ryngweithiol lle clywodd y cyfranogwyr yn uniongyrchol am ddefnyddio rhagfynegi er lles cymdeithasol ledled y llywodraeth, maes gofal iechyd a mudiadau cynorthwyo.
![Man delivers presentation to group](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1429081/Dr-Rostami-Tabar-delivers-R-masterclass.jpg?w=575&ar=16:9)
Arweiniodd Dr Rostami-Tabar y diwrnod olaf a oedd yn canolbwyntio ar ragfynegi gan ddefnyddio meddalwedd R. Aeth drwy broses gyfan y dasg ragfynegi gan ddefnyddio set data go iawn o'r sector iechyd.
Er mwyn rhoi'r damcaniaethau ar waith, defnyddiodd y mynychwyr R i baratoi, i drafod ac i ddelweddu data ac yna buon nhw'n cymhwyso dulliau rhagfynegi ac yn cymharu pa mor gywir oedden nhw.
Yn dilyn llwyddiant y gweithdy, mae Dr Rostami-Tabar a'r Athro Syntetos yn bwriadu trefnu rhagor o weithdai ym maes lles cymdeithasol yn y dyfodol.