Targed newydd ar gyfer therapïau canser gastrig
29 Ionawr 2019
Mae'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datgelu gwybodaeth newydd am fecanweithiau sylfaenol canser gastrig, gyda’r gobaith am therapïau newydd posibl yn y dyfodol.
Canfu’r ymchwilwyr y gallant atal celloedd gastrig rhag rhannu a thyfu trwy ddileu derbynnydd ar arwyneb cell penodol sy’n cyfrannu at swyddogaeth y bôn-gelloedd.
Dywedodd Dr Toby Phesse, o Brifysgol Caerdydd: “Mae prognosis canser gastrig yn wael iawn, ac ychydig iawn o driniaethau sydd ar gael i gleifion, felly mae angen dirfawr am driniaethau clinigol newydd ar gyfer y clefyd hwn.
“Mae gan gleifion canser gastrig fwtaniadau mewn genynnau sy’n gysylltiedig â rheoleiddio Wnt - llwybr signalau celloedd sy’n rhan o ymwahanu celloedd. Mae’n gyrru datblygiad a lledaeniad y canser drwy’r corff.
“Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn rhai o’r derbynyddion Fzd, sy’n trosglwyddo signalau Wnt, ac mae hyn yn gysylltiedig â phrognosis gwael mewn canser gastrig.
“Er gwaethaf y dystiolaeth, prin yw’r ymchwil sy’n mynd i’r afael â’r posibilrwydd o dargedu derbynyddion Wnt fel triniaeth ar gyfer canserau gastrig. Ein nod yw deall goblygiadau rhwystro Wnt trwy dargedu derbynyddion Fzd a ph’un a ellid defnyddio hyn fel triniaeth effeithiol.”
Mae’r gwyddonwyr yn targedu derbynnydd Fzd penodol a elwir yn Fzd7, gan mai dyma’r prif dderbynnydd Wnt sy’n gyfrifol am weithrediad y bôn-gelloedd yn y stumog a’r coluddyn. Canfuwyd bod dileu Fzd7 mewn celloedd gastrig yn atal y celloedd hyn rhag ymateb i signalau Wnt ac ni lwyddon nhw i rannu a thyfu.
Ychwanegodd Dr Phesse: “Mae’r wybodaeth hon yn rhoi llwybr therapiwtig newydd posibl ar gyfer canserau gastrig, gan fod modd i ni dargedu Fzd7 ac, o ganlyniad, atal signalau Wnt a thyfiant y tiwmor. Yn wir, mae Vantictumab yn gyffur sy’n cael ei adnabod am atal nifer o dderbynyddion Fzd, gan gynnwys Fzd7, ac mae’n rhan o dreialon clinigol ar gyfer trin canserau eraill ar hyn o bryd – fel canser y pancreas, yr ysgyfaint a’r frest.
“Rydym bellach wedi dangos yn yr ymchwil hon bod gan Vantictumab effeithiau gwrth-tiwmor grymus mewn tiwmorau gastrig sydd â mwtaniadau i’r llwybr Wnt a rhai sydd hebddynt.
Mae’r ymchwil hon, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Melbourne, Canolfan Feddygol Prifysgol Utrecht, Sefydliad Bioleg Feddygol Singapore, a Chynhyrchion Fferyllol Oncomed, yn cael ei chyhoeddi ar-lein yn Canser Research, cyfnodolyn Cymdeithas Ymchwil Canser America.