Rhamant yn yr Oesoedd Canol
29 Ionawr 2019
Ysgolhaig Llenyddiaeth Saesneg yn cyd-olygu dau gasgliad newydd sy'n edrych o'r newydd ar weithiau nodedig o'r oesoedd canol
Mae'r ysgolhaig Llenyddiaeth Saesneg Dr Megan Leitch wedi arwain dau brosiect cydweithredol newydd sy'n cynnig safbwyntiau ffres ar ramantau'r oesoedd canol, neu naratifau antur a serch bonheddig.
Yn ddiweddar hefyd trefnodd Dr Leitch gynhadledd ryngwladol yn canolbwyntio ar astudio rhamant yr oesoedd canol, y genre llenyddol seciwlar mwyaf poblogaidd yn yr Oesoedd Canol hwyr.
Mae A New Companion to Malory yn cynnig diweddariad amserol i'r Cydymaith dylanwadol yn 1996 ar Morte Darthur, gyda chymorth y datblygiadau testunol, diwylliannol, llenyddol a hanesyddol diweddaraf ac ymagweddau beirniadol yr unfed ganrif ar hugain. Gan ddathlu 550 mlwyddiant y testun hwn sydd bellach yn rhan o'r canon, mae'r New Companion yn cynnig canllaw cyfoes i gyd-fynd â safle canolog Malory yng nghwricwlwm y brifysgol ac mewn trafodaethau beirniadol.
Cyd-olygwyd y Cydymaith gyda Cory James Rushton (Athro Cyswllt ym Mhrifysgol St Francis Xavier), ac mae'n cynnwys cyfres newydd o ysgrifau gan 16 arbenigwr rhyngwladol yn y maes gan gynnwys Dr Leitch a hefyd Dr Rob Gossedge o Gaerdydd.
Morte Darthur, a ysgrifennwyd gan y 'marchog garcharor' Thomas Malory yn ei gell yn 1469, ychydig cyn ei farw, yw'r fersiwn diffiniol o'r 15fed ganrif o chwedl y Brenin Arthur, Marchogion y Bwrdd Crwn a'r cwest am y Greal Sanctaidd. Mae'n addasiad mentrus ac yn gyfuniad o amrywiaeth o ffynonellau Arthuraidd cynharach, ac mae wedi dylanwadu ar lenyddiaeth a diwylliant Arthuraidd am ganrifoedd ers i'r argraffwr William Caxton ei gyhoeddi yn 1485 yn ystod Rhyfel y Rhosynnau.
Mae'r ail gyfrol, Romance Rewritten: The Evolution of Middle English Romance, yn cynnig agweddau newydd at hydrinedd a thrawsnewid oesol y rhamantau canoloesol mewn cyfres o ysgrifau gan ysgolheigion rhyngwladol.
Mae'r casgliad yn arloesol drwy gasglu rhamantau poblogaidd, dienw Saesneg a bonheddig at ei gilydd, ynghyd â chofleidio gweithiau Chaucer a rhamant Arthuraidd, na chânt eu trin gyda'i gilydd yn aml. Mae'r penodau'n holi cwestiynau fel: pa mor gyfforddus, a pha mor hyblyg yw natur a nodau genre'r rhamant? Sut cafodd rhamantau Saesneg Canol eu hailysgrifennu i gynnwys pryderon a disgwyliadau generig cyfoes? Beth gall talu sylw i dechnegau a chonfensiynau naratif ei ddatgelu am y sicrwydd mae'r rhamantau'n ei gynnig, neu'r cwestiynau maent yn eu gofyn? Sut mae themâu canolog rhamantau o ran delfrydau ac ymddygiad seciwlar yn croestorri gyda blaenoriaethau ysbrydol? A sut caiff rhamantau eu trawsnewid neu eu derbyn mewn cyfnodau diweddarach?
Cyd-olygwyd y casgliad gan Dr Leitch a'r Athro Elizabeth Archibald a'r Athro Corinne Saunders (Prifysgol Durham), ac mae'n cyfuno cyfraniad arbenigol amrywiol gan 15 o ysgolheigion. Mae hefyd yn deyrnged i arwyddocâd a dylanwad gwaith arloesol yr Athro Helen Cooper ar ramant.
Mae awdur Romancing Treason: The Literature of the Wars of the Roses (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2015), Dr Megan Leitch yn Uwch-ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Mae Dr Leitch yn aelod o'r Fenter Ymchwil Canoloesol a Modern Cynnar ac yn darlithio mewn Llenyddiaeth Saesneg ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ei diddordebau ymchwil hefyd yn cynnwys y dyniaethau meddygol a dilyniannau rhwng llenyddiaeth Saesneg ganoloesol a modern cynnar.
Cyhoeddir A New Companion to Malory a Romance Rewritten: The Evolution of Middle English Romance gan Boydell & Brewer.