Prifddinas sy'n newid
13 Rhagfyr 2018
Mae arbenigwr mewn cynllunio gofodol wedi dangos beth yw Caerdydd a beth allai fod drwy edrych ar amgylchedd adeiledig y ddinas yn y ddiweddaraf yng Nghyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd.
Rhannodd Dr Brian Webb, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, ei gyflwyniad yn bedair rhan ac edrych ar sut mae prifddinas Cymru yn newid ar lefelau Rhanbarth, Dinas, Ardal a Chymdogaeth.
Dysgodd y mynychwyr, a oedd yn dod o sectorau academaidd, busnes, adeiladu ac ymgynghori Caerdydd, sut mae gan gynlluniau bychain cyfredol ac arfaethedig ar lefel cymdogaethau botensial i newid cymunedau ar draws y dinas-ranbarth.
Yn ogystal, esboniodd Dr Webb sut mae mentrau ar lefel ardal yn ailgyfeirio canolfan economaidd Caerdydd i'r fetropolis adwerthu a ddatblygodd dros yr ugain mlynedd diwethaf.
Meddai: “Mae siopa ar-lein yn newid yr amgylchedd adwerthu ond mae Caerdydd – mewn llawer o ffyrdd – mewn sefyllfa dda i ddod drwy'r gwaethaf o ran rhai o'r newidiadau hyn o safbwynt Canol Dinas...”
“Mae wedi creu cymysgedd o wahanol fathau o weithgareddau. Felly gall unrhyw un fynd i brynu rhywbeth ar-lein, ond dydy hi ddim mor hawdd mynd i fwynhau paned o goffi ac i sgwrsio â ffrindiau ac i gerdded o gwmpas.
“Mae Canol Dinas Caerdydd wedi llwyddo i greu amgylchedd sy'n ffafriol i'r math o weithgaredd hwnnw a'r math o brofiad hwnnw.”
Yn olaf, edrychodd Dr Webb ar lefel y ddinas lle esboniodd oblygiadau prosiectau tai a seilwaith mawr sy'n nodweddiadol o'r ddinas ar ei ffurf bresennol.
Ar ôl y cyflwyniad aeth Sarah Lethbridge, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol yn Ysgol Busnes Caerdydd, ati i wahodd y gynulleidfa i holi cwestiynau.
Yn dilyn hyn cafwyd sesiwn holi ac ateb fywiog pan atebodd Dr Webb gwestiynau am ddatblygiadau tai cymdeithasol a myfyrwyr, trafnidiaeth, adfywio camlesi a'r Dinas-Ranbarth.
Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.
Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.
Cofrestrwch nawr ar gyfer y sesiwn hysbysu nesaf ar Lywodraethiant a Chwaraeon sy'n digwydd ar 22 Ionawr 2019 o dan arweiniad Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd.