Sicrhau bod pobl ifanc yn ymgysylltu â seryddiaeth go iawn
25 Ionawr 2019
Mae’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi derbyn £445,000 fel rhan o ddau grant gwerth dros £8 miliwn ar gyfer prosiectau a anelir at bobl ifanc.
Mae gan Dr Paul Roche, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, gynlluniau mawr ar gyfer grŵp o tua 1,000 o blant ysgol yng Nghymoedd y De, gyda rhaglen addysg gwyddoniaeth a fydd yn helpu i sicrhau bod y bydysawd yn eu hystafelloedd dosbarth.
Mae'r prosiect UniverseLab yn rhan o fenter STEM ledled Cymru a elwir yn Trio Sci Cymru, ac sy'n cynnwys gwyddonwyr o brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor mewn rhaglen uchelgeisiol i geisio hybu diddordeb ac ymgysylltiad â gwyddoniaeth.
Fel rhan o'r UniverseLab bydd y myfyrwyr yn profi’r gofod mewn ffyrdd newydd cyffrous sy’n defnyddio dulliau addysgu uwch-dechnoleg, fel system daflunio symudol sy’n troi neuadd ysgol yn sinema 3D, a thrwy ddefnyddio realiti rhithwir ac estynedig i deithio tu mewn i’r Orsaf Ofod Ryngwladol a hedfan o amgylch cysawd yr Haul. Byddant yn dadansoddi delweddau o asteroidau, comedau, sêr a galaethau pell trwy ddefnyddio prosiect Telesgop Faulkes, ac yn rheoli telesgopau o bell ar draws y byd, gan ddatblygu eu cynlluniau eu hunain i deithio i blaned Mawrth a’i hastudio. Bydd y disgyblion hefyd yn cael profiad "ymarferol" o greigiau gofod go iawn a ffosiliau deinosor, ac yn astudio beth sy'n digwydd pan fydd asteroidau’n gwrthdaro â’r ddaear.
Bydd Trio Sci Cymru yn parhau am 3 blynedd, a bydd cynnydd a diddordeb y disgyblion mewn pynciau mathemateg a gwyddoniaeth yn cael ei werthuso ar hyd y rhaglen.
"Ein gobaith yw y bydd cynnwys myfyrwyr mewn gwyddoniaeth go iawn yn eu hysbrydoli, ac yn dangos iddynt pa mor bwysig yw gwyddoniaeth i’w dyfodol", meddai Dr Roche. "Byddant yn defnyddio cyfleusterau ymchwil proffesiynol fel Telesgopau £5 miliwn Faulkes yn Hawaii ac Awstralia, ac yn dysgu bod y pethau y maent yn eu hastudio yn eu hystafelloedd dosbarth yng Nghymru yr un mor gymwys wrth gynllunio’r daith i’r blaned Mawrth, neu wrth edrych ar gorneli mwyaf pellennig y Bydysawd”.
Mae'r prosiect UniverseLab yn rhan o'r gydran Prifysgol Caerdydd £1.95 miliwn o'r fenter Trio Sci Cymru £8.2 miliwn, sy'n cael ei chefnogi gan £5.7m o gyllid yr UE a £2.5m gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru. Nodau Trio Sci Cymru yw cynyddu’r nifer sy’n astudio pynciau STEM a gwella’r graddau yn y pynciau hynny ymhlith pobl ifanc sy’n byw yng Ngorllewin a Gogledd Cymru a Chymoedd y De.
Mae Dr Roche, sy’n Llysgennad y Gofod yng Nghymru i Asiantaeth Ofod Ewrop, hefyd yn ymwneud â helpu i gysylltu nifer o wledydd Sgandinafia â phrosiect sy’n rhoi rheolaeth ar gyfleusterau seryddol gwerth miliynau lawer o bunnoedd i blant ysgol.
Rhennir Prosiect Telesgop Faulkes rhwng prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, ac mae’n brosiect addysg gwyddoniaeth sy’n arwain y byd, ac sy’n rhoi cyfle i ysgolion reoli telesgopau yn Hawaii, Awstralia, Chile, De Affrica, Tenerife ac UDA o bell - ac mae disgwyl i ragor o safleoedd ddod ar-lein yn ystod y blynyddoedd nesaf. Gall disgyblion reoli’r telesgopau a gweld delweddau anhygoel o asteroidau, comedau, sêr a galaethau, a helpu i gasglu data a ddefnyddir wedyn gan wyddonwyr ar draws y byd.
Dywedodd Dr Roche: "Bydd y prosiect Arsyllfa ar-lein yn ein helpu i rannu ein harbenigedd a'n profiad o ddefnyddio telesgopau i ennyn diddordeb ysgolion mewn gwyddoniaeth go iawn. "Rydym yn gweithio gyda seryddwyr yn Denmarc, Norwy, y Ffindir a Latfia, i’w helpu i ddefnyddio eu harsyllfeydd ac ymchwil wyddonol i geisio ysbrydoli plant ysgol i ymgysylltu â gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg."
Ariennir y prosiect Arsyllfa ar-lein gan £300,000 o raglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd, sy’n hwyluso cydweithio rhwng gwledydd. Bydd y rhaglen yn para am 2 flynedd, a bydd Prifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar ddatblygu deunydd addysgol sy'n caniatáu i ddisgyblion astudio sêr ffrwydrol (supernovae) a phlanedau sydd newydd eu darganfod sy’n troi o amgylch sêr pellennig (ecsoblanedau) yn arbennig, gan weithio gyda thimau o ymchwilwyr o wahanol rannau o Ewrop. Bydd tîm Caerdydd hefyd yn cynhyrchu "teithiau rhithwir" o amgylch pob un o'r cyfleusterau sy'n rhan o gydweithrediad yr Arsyllfa Ar-lein, fel bod disgyblion yn gallu edrych o amgylch y safleoedd heb orfod gadael eu hystafell ddosbarth eu hunain.