Grymuso teuluoedd â gwybodaeth
22 Ionawr 2019
Mae academydd o Brifysgol Caerdydd yn ystyried yr hyn y mae rhoi organau’n ei olygu i bobl Fwslimaidd.
Mae’r GIG wedi rhoi arian i Dr Mansur Ali o Ganolfan Astudiaethau Islamaidd y DU i ymgysylltu â chymunedau i drafod ei ymchwil. Nod ei ymchwil yw rhoi gwybodaeth glir i Fwslimiaid ynghylch beth mae newidiadau diweddar i’r gyfraith yn ei olygu i’w ffydd.
Mae bron i dair blynedd wedi bod ers i Ddeddf Trawsblannu Dynol 2013 (Cymru) ddod i rym. Bellach, mae pob oedolyn yn cael ei ystyried yn rhoddwr oni bai ei fod wedi nodi ei fod am optio allan o’r cynllun. Yn yr un modd, pasiodd Bil Rhoi Organau (Caniatâd Tybiedig) y glwyd olaf yn senedd Lloegr, a chaiff ei roi ar waith y flwyddyn nesaf.
Ond mae’r newidiadau hyn wedi amlygu cwestiynau a phryderon ymysg cymunedau Mwslimaidd ynghylch beth mae eu crefydd yn ei ddweud am y mater sensitif hwn.
Dywedodd Dr Ali, o Ganolfan Islamaidd y DU, sy’n rhan o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: “Mae’r ymchwil yn dangos bod awydd i ddefnyddio gwasanaethau trawsblannu organau ymysg Mwslimiaid y DU; fodd bynnag, nid ydynt yn siŵr am hyn o safbwynt diwinyddol. Un o amcanion allweddol yr ymchwil yw mynd i'r afael â’r pryder hwn."
Mae rhoi organau’n bwnc dadleuol ymysg ysgolheigion Mwslimaidd. Oherwydd diffyg ffynonellau ysgrythurol, maent wedi cyhoeddi safbwyntiau nad ydynt yn gyfreithiol-rwym (fatwa), sy’n cynnig eglurhad ynghylch a yw rhoi organau’n dderbyniol neu beidio yn Islam. Mae’r gymuned Fwslimaidd ehangach yn defnyddio fatwas fel cwmpawd crefyddol ar gyfer eu bywydau.
Yn ogystal ag edrych yn ôl dros destunau hanesyddol, mae ysgolheigion yn ystyried ffynonellau eraill fel barn gweithwyr meddygol proffesiynol a safbwyntiau o fyd diwylliant, traddodiad a synnwyr cyffredin.
Mae’r prosiect rhyngddisgyblaethol ‘Duw biau ein cyrff: Deddf Trawsblannu Dynol 2013 ac ymateb Mwslimiaid Caerdydd iddi’, wedi cynnwys astudiaeth Dr Ali o’r holl fatwas perthnasol er mwyn ceisio amlinellu safbwynt llawn eu crefydd ynghylch y pwnc. Ariennir y prosiect gan Brifysgol Caerdydd.
Bydd y cyllid gan y GIG yn gadael i Dr Ali gynnal grwpiau ffocws a gweithdai yng Nghymru a Lloegr, lle bydd yn trafod ei ganfyddiadau gyda Mwslimiaid eraill. Hefyd, bydd yn defnyddio’r amser i drafod unrhyw bryderon ac ofnau sydd ganddynt ynghylch rhoi organau.
Meddai Dr Ali: “Mae nifer y Mwslimiaid sydd wedi cofrestru’n rhoddwyr organau’n is o lawer na chyfartaledd y DU gyfan. Mae ansicrwydd mawr o ran yr hyn y bydd newidiadau i’r gyfraith yn ei olygu. Rwy’n gobeithio y bydd fy ngwaith yn egluro’r pwnc cymhleth hwn ac yn grymuso teuluoedd a effeithir gan y materion hyn i wneud penderfyniadau pwyllog ar sail gwybodaeth.”
Cyd-awdur y llyfr Understanding Muslim Chaplaincy yw Dr Mansur Ali. Mae hefyd yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac yn Khatib ym Mosg Darul Isra yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, rhannodd Dr Ali ei ganfyddiadau cynnar ynghylch rhoi organau o safbwynt Islam yng Nghynhadledd Ryngwladol ar Drawsblannu Organau ac Islam ym Mhrifysgol Western Sydney.