Animeiddiad Prosiect Treftadaeth CAER
25 Medi 2015
Gwreiddiau'r ddinas yn dod yn fyw mewn ffilm gymunedol
Mae digwyddiad cloddio cymunedol pwysig ar un o fryngaerau mwyaf arwyddocaol Cymru o Oes yr Haearn, sydd wedi datgelu tystiolaeth bod gwreiddiau Caerdydd yn dyddio yn ôl 6,000 o flynyddoedd, yn destun ffilm newydd.
Ar y cyd â Phrosiect Treftadaeth CAER, gweithiodd y prif artist Paul Evans a'r gwneuthurwr ffilmiau Jon Harrison, disgyblion o ddwy ysgol leol, mewn grwpiau bach i greu cyfres o animeiddiadau byr ar gyfer ffilm o'r enw 'CAER HEDZ'.
Fel rhan o'r prosiect, bu pobl ifanc yn gwneud 'Pennau Celtaidd' unigol yn seiliedig ar enghreifftiau o Oes yr Haearn. Gwnaed dros 40 yn gyfan gwbl. Yna, defnyddiwyd wyth o'r pennau hyn i greu animeiddiadau gyda lleisiau lleol a recordiwyd gan wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o fentrau Prosiect Treftadaeth CAER.
Mae Prosiect Treftadaeth CAER yn brosiect ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol
Caerdydd, Cymunedau yn Gyntaf Trelái a Chaerau, ysgolion lleol a thrigolion
lleol. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar un o safleoedd archaeolegol mwyaf
pwysig, ond mwyaf anhysbys Caerdydd, sef bryngaer Caerau, o Oes yr Haearn.
Bryngaer Caerau yw un o'r rhai mwyaf yn ne Cymru, sydd wedi cael ei chadw orau.
Dangosodd digwyddiadau cloddio diweddar gan dîm Prosiect Treftadaeth CAER, a
oedd yn cynnwys dros 120 o wirfoddolwyr lleol, bod
gwreiddiau Caerdydd yn dyddio yn ôl 6,000 o flynyddoedd i'r Oes Neolithig
gynnar (4,000 – 3,300 CC).
Ariannwyd y ffilm 'CAER HEDZ' gan Grant Gŵyl Cymunedau Cysylltiedig Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.