Creu tonnau
8 Ionawr 2019
Mae defnyddio niwro-adborth i wella sgiliau arweinyddiaeth yn cyflawni canlyniadau oherwydd plasebo yn hytrach na’r dechnoleg, yn ôl tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.
Bu’r Athro Dirk Lindebaum, Dr Ismael Al-Amoudi a Virginia Brown o Ysgol Fusnes Caerdydd yn adolygu astudiaethau niwrowyddonol presennnol, a chanfod bod ymarferwyr niwro-adborth yn codi symiau anferth am driniaeth sydd wedi’i seilio ar ganlyniadau seicolegol yn hytrach nag ymyrraeth dechnolegol.
Mae niwro-adborth, sy’n fath o fio-adborth, yn defnyddio electroencephalograffeg (EEG) i fesur gweithgarwch yr ymennydd, neu donnau’r ymennydd, trwy roi electrodau ar groen y pen.
Ateb cyflym
Mae darparwyr yn honni eu bod wedi canfod patrymau tonnau ymennydd arweinyddion sy’n ysbrydoli a’u bod, trwy ddefnyddio niwro-adborth, yn helpu cleientiaid i newid eu tonnau ymennydd i gyfateb i’r rheiny.
Gall darpar arweinyddion fwynhau encil dwys o hyfforddiant i’r ymennydd am ryw £12,000, tra bod rhai’n disgwyl i’r farchnad ‘ffitrwydd yr ymennydd’ dyfu i £4.5 biliwn erbyn 2020.
Effaith y plasebo
Ychwanegodd yr Athro Lindebaum: “Mae cryn ddiddordeb masnachol yn y maes, ac weithiau mae’r diddordeb masnachol ymhellach ar y blaen i’r dystiolaeth wyddonol. Maen nhw’n ennill arian trwy honni eu bod yn defnyddio technoleg soffistigedig y mae’r dystiolaeth yn awgrymu ei bod yn gweithio’n bennaf trwy effeithiau seicolegol - effaith y plasebo.”
Yr ymgais hon i fanteisio’n ariannol ar y canlyniadau, y mae niwrowyddonwyr yn awgrymu eu bod yn deillio o’r plasebo yn bennaf, sy’n peri trafferth i’r tîm yng Nghaerdydd.
Maen nhw’n awgrymu y gallai sicrhau bod mas critigol o ddarpar gleientiaid yn dod i gysylltiad â thystiolaeth wyddonol, o’r ymchwil niwrowyddoniaeth ddiweddaraf, ynghylch ei haneffeithiolrwydd arwain at ddiflaniad effaith plasebo niwro-adborth.
Rhybuddiodd yr Athro Lindebaum: “Peidiwch â chael eich denu gan y dechnoleg. Mae ffyrdd o sicrhau canlyniadau sy’n rhatach na niwro-adborth, ac wedi’u seilio ar well gwyddoniaeth.”
Cyhoeddir yr astudiaeth ‘Does leadership development need to care about neuro-ethics?’ yn yr Academy of Management Learning and Education.
Mae hefyd wedi cael ei chyfieithu ar gyfer ymarferwyr rheolaeth ar lwyfan ‘Insights’ yr Academi Reolaeth, sydd newydd ei lansio.