Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd ar restr fer Gwobrau Menywod y Dyfodol
25 Medi 2015
Mae ymchwilydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Menywod y Dyfodol 2015
Bydd cyflawniadau gwyddonol Dr Jennifer Edwards, Cymrawd Ymchwil y Canghellor yn Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) a phedair menyw ifanc arall, yn cael eu dathlu yn y gwobrau mawreddog y mis nesaf.
Mae uchafbwyntiau Dr Edwards yn ystod ei gyrfa yn cynnwys gwaith doethurol ar gatalysis aur gyda'r Athro Graham Hutchings yn CCI, yn ogystal â Chymdeithas Siapan i Hyrwyddo Cymrodoriaeth Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Tokyo gyda'r Athro Masatake Haruta yn 2010.
Meddai Dr Edwards: "Rwyf wrth fy modd fy mod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menywod y Dyfodol. Mae fy ngwaith ymchwil yn CCI yn golygu llawer iawn i mi, ac mae'n hyfryd cael y gydnabyddiaeth hon am fy ngwaith dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae gan gatalysis rôl enfawr mewn bywyd bob dydd. Gyda lwc, bydd fy ymchwil am gatalysis aur a synthesis uniongyrchol perocsid hydrogen, yn cyfrannu at wella'r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo."
Ychwanegodd yr Athro Graham Hutchings: "Rydym yn falch iawn bod panel y beirniaid wedi cydnabod Jenny a'i gwaith ymchwil. Mae Jenny wedi gwneud cyfraniad eithriadol i Sefydliad Catalysis Caerdydd, ac mae ei hymchwil am aur fel catalydd ar gyfer synthesis perocsid hydrogen wedi bod yn hollbwysig wrth ddatblygu enw da'r sefydliad ar gyfer ymchwil sydd ar flaen y gad."
Cynhelir y gwobrau hyn, sydd bellach yn ddeg oed, yng ngwesty London Hilton ar 27 Hydref. Maent yn dathlu llwyddiannau menywod ifanc ar draws llu o sectorau gan gynnwys gwyddoniaeth, y celfyddydau a diwylliant, busnes, technoleg a chwaraeon.