Myfyrwyr Cerddoriaeth mewn cyfres wreiddiol ar Netflix
18 Ionawr 2019
Bydd myfyrwyr o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn ymddangos mewn cyfres wreiddiol a ryddhawyd yn ddiweddar ar Netflix y DU, Sex Education.
Dewiswyd Off the Record, grŵp o berfformwyr o Gymdeithas Operatig Prifysgol Caerdydd, i chwarae rhan côr yr ysgol yn y gyfres newydd. Bu deg myfyriwr o’r grŵp yn cymryd rhan, gan ffilmio golygfeydd y côr ac ymddangos fel cymeriadau cefndirol trwy gydol y gyfres.
Fe dreuliodd y côr dair wythnos yn recordio yng Nghaerllion, Penarth a Chasnewydd yn yr haf, yn perfformio Love Really Hurts Without You gan Billy Ocean a Since You Been Gone gan y Rainbow’s.
Mae Sex Education yn ddrama gomedi am dyfu’n oedolyn sy’n dilyn bachgen lletchwith yn ei arddegau, Otis Thompson, sy’n byw gyda’i fam sy’n therapydd rhyw.
Dywedodd Heather Fuller, Llywydd y Gymdeithas Operatig, wrth sôn am y profiad: “Roedd cymryd rhan mewn cyfres deledu yn brofiad newydd a chyffrous i bob un ohonom. Pleser o’r mwyaf oedd gweithio mor agos gyda Jim Howick sy’n chwarae rhan yr athro cerddoriaeth, yn ogystal â gweld sut y mae cynhyrchiad fel hyn yn dod at ei gilydd. Roedd y cast a’r criw yn hynod gyfeillgar ac wedi gwneud i ni deimlo’n gartrefol iawn.
“Clywed y darn gorffenedig oedd yr uchafbwynt mwyaf i ni yn sicr! Daethom at ein gilydd i wylio’r rhaglen a gweld eu bod wedi torri a gludo golygfeydd o ddiwrnodau ffilmio unigol i benodau gwahanol – ac roedd yn arbennig o ryfedd gweld ein hunain yn canu ar y teledu!”