Mannau Cynaliadwy yn derbyn grant Diogelwch Bwyd Byd-eang
18 Ionawr 2019
Mae Dr Angelina Sanderson Bellamy o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd wedi cael £645,000 ar gyfer prosiect ymchwil dwy flynedd o hyd yn cydweithio ag Ymchwil Rothamsted, Prifysgol Newcastle, Prifysgol Northumbria a Choleg Gwledig yr Alban.
Bydd “T-GRAINS: Trawsnewid a Thyfu Perthnasau o fewn systemau bwyd rhanbarthol ar gyfer Gwell Maeth a Chynaliadwyedd” yn ystyried p’un a all system fwyd y DU, sy’n seiliedig ar ranbarthau, gynnig diet iachus a chynaliadwy, ac a ellir sicrhau gwydnwch yn y system trwy gryfhau cyfalaf cymdeithasol ymysg rhanddeiliaid system bwyd.
Fel rhan o’r ymchwil, bydd y tîm hefyd yn asesu’r effaith y gall cysylltu defnyddwyr yn uniongyrchol â chynhyrchwyr ei chael ar ddiwylliant bwyd y cartref i gyflawni diet iachach a chynhyrchu bwyd mwy cynaliadwy.
Ariennir y prosiect gan y rhaglen Materion Diogelwch Bwyd, sy’n cynnig ymchwil ryngddisgyblaethol gwerth £1.8 miliwn yn rhagor i gynyddu gwydnwch system fwyd y DU.
Dyma gam terfynol y rhaglen £15 miliwn. Rhoddir sylw i ystod eang o heriau, gan ymdrin â phynciau mor amrywiol ag anifeiliaid a chynhyrchu llaeth, rôl ffosfforws, risgiau dŵr i gyflenwad ffrwythau a llysiau ffres y DU a chael gwell dealltwriaeth o gredoau, gwerthoedd a dewisiadau defnyddwyr.
Mae ‘Gwydnwch System Fwyd y DU mewn Cyd-destun Byd-eang’ wedi’i arwain gan rhaglen Diogelwch Bwyd Byd-eang y DU, gyda chyllid gan Gyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) Ymchwil ac Arloesedd y DU, Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) a Llywodraeth yr Alban.