Ysgol ac awdurdod lleol yn cael effaith ar gyfleoedd yn y brifysgol
24 Medi 2015
Ymchwil newydd yn dangos bod côd post yn effeithio ar gyfranogiadaddysg
uwch
Mae gobeithion disgyblion ysgol
yng Nghymru o fynd i brifysgol yn amrywio'n sylweddol yn ôl yr ysgol y maent yn
ei mynychu ac awdurdod lleol yr ysgol honno, waeth beth fo'u cyrhaeddiad
addysgol unigol, yn ôl ymchwil
newydd gan
Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym
Mhrifysgol Caerdydd.
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (24 Medi) gan y ganolfan, ar y cyd â
Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU (ESRC) a Chyngor Cyllido Addysg
Uwch Cymru (HEFCW), yn
dangos gwahaniaethau sylweddol rhwng ysgolion, o ran nifer y disgyblion sy'n
ymgymryd ag addysg uwch.
Roedd disgyblion mewn ysgolion lle mae nifer uchel fel arfer yn symud ymlaen i
addysg uwch, bron dair gwaith yn fwy tebygol o fynd i'r brifysgol, o'i gymharu
â'r rheini mewn ysgolion â lefelau cymedrol o ymgymryd ag addysg uwch, waeth
beth fo'u cyrhaeddiad addysgol, cefndir economaidd-gymdeithasol neu gefndir
ethnig.
Yn yr un modd, roedd y rheini mewn ysgolion â'r cofnod isaf o symud ymlaen i addysg uwch, 42% yn llai tebygol o fynd i brifysgol na'u cyfoedion mewn ysgolion â lefel gymedrol o ymgymryd ag addysg uwch.
Er bod yr adroddiad
yn dweud ei bod yn anodd canfod beth sy'n achosi'r gwahaniaethau amlwg hyn ym
mha mor debygol mae disgyblion o fynd i brifysgol, mae'n pwysleisio pwysigrwydd
y canfyddiad o ran tynnu sylw at rôl allweddol ysgolion wrth lunio patrymau
mynediad i addysg uwch.
Dangosodd yr adroddiad hefyd bod yr un peth yn wir am y 22 o awdurdodau lleol
yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd ambell i awdurdod lleol sydd â'r lefelau
uchaf o anfanteision economaidd-gymdeithasol – gan gynnwys Merthyr Tudful,
Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent – ymhlith y rhai lle'r oedd y bobl ifanc yn
fwyaf tebygol o ymgymryd ag addysg uwch. Ym
Merthyr Tudful, er enghraifft, mae dynion ifanc bron dair gwaith yn fwy tebygol
o fynd i brifysgol na'r rheini yn yr awdurdod lleol arferol; ac mae menywod
ifanc dros ddwywaith yn fwy tebygol.
Dangoswyd bod cefndir ethnig yn ffactor arwyddocaol iawn hefyd wrth
bennu mynediad i addysg uwch. Roedd pobl ifanc o gefndir ethnig 'du a lleiafrif
ethnig (BME)' ac o gefndir 'Gwyn Arall' yn llawer mwy tebygol o ymgymryd ag
addysg uwch na'r grŵp 'Gwyn Prydeinig'.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu fframwaith strategol cenedlaethol ar gyfer ehangu mynediad i addysg uwch, sy'n cynnwys pob sector o'r system addysg yng Nghymru, ac nid y prifysgolion yn unig. Yn ôl yr adroddiad, byddai'r fframwaith hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau yn ymdrechion pobl ifanc i gael mynediad i addysg uwch, ac yn helpu i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n parhau ar gyrsiau addysg uwch ac yn gwneud cynnydd yn eu cymwysterau.
Arweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Gareth Rees a'r Athro Chris Taylor.
Dywedodd yr Athro Taylor:"Er gwaethaf rhai
newidiadau cadarnhaol mewn degawdau diweddar yn y patrymau ymhlith rhai grwpiau
o'r boblogaeth mewn addysg uwch, gyda chyfranogiad menywod, rhai grwpiau
lleiafrifoedd ethnig, a phobl ag anableddau yn cynyddu'n sylweddol, mae
anghydraddoldebau mawr o hyd yn lefelau cyfranogiad mewn addysg uwch.
"Mae mynediad teg i addysg uwch yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth
Cymru, ac mae'r gwaith ymchwil hwn yn cyfrannu negeseuon pwysig at y ddadl
gyhoeddus ar y mater allweddol hwn. Mae'r neges i ysgolion yn glir - mae angen
iddynt roi'r un sylw i gyrchfan y rheini sy'n gadael yr ysgol ag y maent yn ei
roi i lefelau cyrhaeddiad.
"Yn bwysicach byth, mae'r canfyddiadau'n dangos yn glir bod yn rhaid ymgorffori'r agenda ehangu mynediad ym mhob cam o'r daith addysgol, er mwyn llywio patrymau mynediad i addysg uwch. Byddai ein hargymhelliad i sefydlu fframwaith strategol cenedlaethol ar gyfer ehangu mynediad, gan ymgorffori pob sector o'r system addysg yng Nghymru - nid dim ond prifysgolion - yn fuddiol yn hyn o beth."
Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr HEFCW: "Bydd y darn pwysig hwn o waith ymchwil ar ddilyniant i addysg uwch yn dylanwadu ar ein polisïau ehangu mynediad dros y blynyddoedd nesaf. Rydym yn ddiolchgar i WISERD am roi i lunwyr polisi'r mewnwelediad pwysig hwn i effaith ysgolion yn hytrach na chefndir economaidd-gymdeithasol. Edrychwn ymlaen at weld prifysgolion a'u partneriaid yn parhau â'u gwaith ehangu mynediad gyda phobl o bob oed, gan sefydlu partneriaethau newydd a deinamig gydag ysgolion a cholegau."