Ysgolion haf rhad ac am ddim i'r rheini yn eu harddegau
18 Ionawr 2019
Bydd 75 o'r rheini yn eu harddegau o gefndiroedd incwm isel a chanolig yn cael profi bywyd fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd eleni, mewn ysgolion haf rhad ac am ddim sy'n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Sutton.
Nod ysgolion haf Ymddiriedolaeth Sutton yn y DU yw gwella mynediad i'r prifysgolion gorau drwy gynnig i gyfranogwyr y wybodaeth a'r mewnwelediad ar gyfer creu ceisiadau o safon uchel, yn ogystal â rhoi hwb i'w dyheadau. Caiff myfyrwyr Blwyddyn 12 flas o sut beth fyddai eu blwyddyn gyntaf fel myfyriwr israddedig, drwy wythnos o ddarlithoedd rhagflas, gweithdai a gweithgareddau cymdeithasol.
Caerdydd fydd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnig y rhaglen, ac mae hi wedi lansio 75 o lefydd newydd yn yr Ysgol Haf Meddygaeth, sydd â'r nod o roi blas i gyfranogwyr ar fywyd fel myfyriwr israddedig. Mae'r ehangiad yn golygu bod Ymddiriedolaeth Sutton, bellach, yn cydweithio â 13 o brifysgolion sy'n bartneriaid ar draws y DU, er mwyn cynnal yr ysgolion haf. Yn 2019, bydd 2,300 o fyfyrwyr o ysgolion gwladol ledled y wlad – y rhai cyntaf o'u teuluoedd i fynd ymlaen i addysg uwch mewn llawer o achosion – yn cymryd rhan mewn cyrsiau sy'n benodol o ran pwnc. .
Cymerodd Tammy Elward ran mewn ysgol haf y DU yn 2000. Dywedodd: "Cefais fy magu yn Ne Cymru mewn ardal wledig iawn o'r cymoedd. Roedd fy nhad yn löwr cyn iddo gael damwain a methu gweithio rhagor, ac roedd fy mam yn gweithio mewn ffatri yng Nghaerdydd am gyfnod byr cyn symud yn ôl i'r pentref.
Mae Ysgolion Haf Ymddiriedolaeth Sutton yn y DU yn agored i holl fyfyrwyr Blwyddyn 12 sy'n mynd i, ac wedi mynd erioed i ysgol neu goleg gwladol yn y DU.
Yna ceir meini prawf ychwanegol, a po fwyaf ohonynt mae myfyrwyr yn eu bodloni, y mwyaf tebygol maen nhw o gael lle. Mae meini prawf ychwanegol yn cynnwys bod y cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i brifysgol, wedi bod yn gymwys i gael prydiau ysgol yn rhad ac am ddim a chael 5 gradd A* – A yn TGAU.
Yn ôl dadansoddiad diweddar o ddata UCAS, roedd pobl ifanc wnaeth gymryd rhan mewn Ysgol Haf Ymddiriedolaeth Sutton rhwng 2006 a 2016 bedair gwaith yn fwy tebygol o gael cynnig gan un o'r prifysgolion gorau na'u cyd-ddisgyblion â graddau tebyg, o gefndiroedd tebyg.
Mae modd gwneud cais nawr ar gyfer Ysgolion Haf y DU, a'r dyddiad cau yw dydd Iau 28 Chwefror 2019, am 5pm. Gellir llenwi ceisiadau ar-lein.
Yn ôl Syr Peter Lampl, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Sutton a'r Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF):
"Rydym wrth ein boddau i ddechrau partneriaeth newydd gyda Phrifysgol Caerdydd i gynnig y cyfle i bobl ifanc brofi bywyd fel myfyrwyr israddedig yng Nghymru. Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn cynnig safon anhygoel o uchel, ac rydym eisiau i'n myfyrwyr gael y profiad o hynny. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y bartneriaeth hon yn y blynyddoedd sydd i ddod."
Meddai Scott McKenzie, Pennaeth Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd:
“Mae’n wych gweithio gydag Ymddiriedolaeth Sutton er mwyn hybu dyheadau disgyblion Blwyddyn 12 a chynnig profiad gwerthfawr o fywyd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd iddynt. Mae hyn yn cyd-fynd â chenhadaeth ddinesig y Brifysgol i weithio gydag ysgolion a phartneriaid addysgol eraill er mwyn cefnogi a gwella llwyddiannau addysgol.”