Dathlu 10 mlynedd ers sefydlu Sefydliad Catalysis Caerdydd
17 Ionawr 2019
Mae canolfan catalysis y brifysgol, y mwyaf blaenllaw o’i math yn y DU, yn dathlu ei degawd cyntaf gyda chynhadledd ryngwladol nodedig.
Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd, a gafodd ei ffurfio yn 2008, wedi datblygu tîm blaenllaw o ymchwilwyr rhyngwladol sy’n dod o hyd i ffyrdd newydd o gyflymu adweithiau cemegol.
Mae’r prif ddigwyddiad yn dod ag arbenigwyr catalysis ynghyd i rannu syniadau a datblygiadau ar wyddoniaeth newid cemegol.
Mae siaradwyr yn cynnwys Bert Weckhuysen, athro Cemeg Anorganig a Chatalysis ym Mhrifysgol Utrecht ac enillydd Gwobr Spinoza 2013 – y wobr uchaf a ddyfernir ym maes gwyddoniaeth yn yr iseldiroedd, a Matt Rosseinsky, athro Cemeg Anorganig ym Mhrifysgol Lerpwl, a gafodd Medal Hughes y Gymdeithas Frenhinol yn 2011.
Mae’r gynhadledd hefyd yn nodi newid ar frig y Sefydliad. Mae’r Athro Duncan Wass yn ymuno â'r Sefydliad o Brifysgol Bryste yn rôl y Cyfarwyddwr newydd. Mae ganddo gyfoeth o brofiad wrth ddatblygu catalyddion i fynd i’r afael â heriau pwysicaf y gymdeithas.
Mae’n cymryd yr awenau oddi wrth yr Athro Graham J. Hutchings CBE FRS, Athro Regius mewn Cemeg, sydd wedi arwain CCI ers ei sefydlu.
Yr Athro Hutchings yw un o arbenigwyr mwyaf rhagorol y byd ym maes catalysis. Mae wedi cyhoeddi dros 800 o bapurau gwyddonol a 45 o batentau, ac fe’i dyfynnwyd mewn cylchgronau academaidd dros 43,000 o weithiau.
Mae’n gadael y swydd wedi cyflawni nifer o ddarganfyddiadau sylweddol. Yr un mwyaf nodedig yw bod aur yn gatalydd heb ei ail ar gyfer nifer o adweithiau.
Dywedodd yr Athro Hutchings: “Rwy'n falch iawn bod yr Athro Wass yn cymryd y swydd. Bydd ei gyfoeth o brofiad a’i arbenigedd yn siŵr o hyrwyddo enw da Caerdydd yn un o brif ganolfannau’r byd ar gyfer catalysis. Mae arwain y Sefydliad am y 10 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn bleser pur, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Athro Wass a chydweithwyr mewn dyfodol sy’n argoeli i fod yn gyffrous.”
"Sefydliad Catalysis Caerdydd yw un o ganolfannau mwyaf blaenllaw y byd ar gyfer ymchwil catalysis, felly mae bod yn Gyfarwyddwr arno yn fraint a chyfle enfawr,” meddai’r Athro Wass.
Ar ôl ei sefydlu gyda buddsoddiad cychwynnol o £2.8m gan Brifysgol Caerdydd, mae’r Sefydliad wedi datblygu meysydd ymchwil gan gynnwys ffotocatalysis, synthesis ynni adnewyddadwy, a thriniaeth ar ôl gwacáu, gan gynnal enw da byd-eang mewn dylunio catalyddion.
Daeth yn Sefydliad Ymchwil y Canghellor yn 2012 - y cyntaf o’i fath yng Nghaerdydd - ac yn 2013 cafodd ei sefydlu fel Sefydliad Ymchwil y Brifysgol, i gydnabod ei statws fel arloeswr o ran troi ymchwil gwyddonol sylfaenol yn gymwysiadau.
Mae’r Sefydliad wedi meithrin cynghreiriau strategol gyda phrifysgolion sydd ag arbenigedd ategol mewn catalysis, fel Caerfaddon, Bryste, Queen’s Belfast ac UCL ac rydym ni wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o greu Canolbwynt Catalysis y DU, sy’n dod ag arbenigedd ynghyd o’r rhan fwyaf o brifysgolion yn y DU sy’n gweithio ym maes catalysis.
Bydd Sefydliad Catalysis Caerdydd yn symud i’w gartref newydd yng Nghyfleuster Ymchwil Drosiadol y Brifysgol, sy’n cael ei adeiladu ar Gampws Arloesedd Caerdydd ar hyn o bryd.