Triniaethau personol ar gyfer clefyd Parkinson
16 Ionawr 2019
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu i ddod â thriniaethau personol ar gyfer clefyd Parkinson yn nes at y clinig, o ganlyniad i fuddsoddiad mawr gan elusen o America, The Summit for Stem Cell Foundation.
Gan weithio mewn partneriaeth â'r Athro Jeanne Loring o Sefydliad Ymchwil Scripps, mae Dr Mariah Lelos o Brifysgol Caerdydd yn profi potensial therapïau celloedd dopamin amgen i leihau symptomau clefyd Parkinson.
"Mae clefyd Parkinson yn achosi celloedd dopaminergig yn yr ymennydd i farw, a gall yn ei dro achosi ystod eang o symptomau modur a symptomau nad ydynt yn rhai modur mewn cleifion. Un strategaeth i leihau'r symptomau hyn yw disodli'r dopamin yn yr ymennydd, gan ddefnyddio 'therapïau amnewid celloedd,' esboniodd Dr Lelos.
"Fodd bynnag, dim ond cyflenwad cyfyngedig o feinwe’r ffetws safonol sydd ei gael ar gyfer y driniaeth hon. At hynny, tra bod y feinwe ffetws a therapïau newydd sy'n deillio o'r bôn-gelloedd yn gweithio'n dda, mae angen i'r claf gymryd cyffuriau gwrth-imiwnedd, a all fod yn niweidiol i'w iechyd.”
Un ateb posibl yw defnyddio celloedd a gymerir yn uniongyrchol o’r claf (a elwir yn iPSCs 'bôn-gelloedd amlbotensial cymelledig') a'u trawsnewid yn therapi celloedd dopamin. Mae'r driniaeth hon sy'n deillio o iPSC wedi'i deilwra i bob claf ac yn osgoi'r defnydd o gyffuriau gwrth-imiwnedd, sy'n golygu y dylai'r therapi fod yn ddiogel heb unrhyw sgîl-effeithiau.
Mae'r tîm yn gobeithio penderfynu a all dau o gynhyrchion therapi celloedd dopamin sy'n deillio o iPSC oroesi mewn model cnofilod o glefyd Parkinson a gwella namau modur.
Mae'r canlyniadau cychwynnol yn dangos potensial, gyda chelloedd yn cael eu cadw mewn meithriniad am 18 diwrnod yn gallu goroesi mewn cnofilod ac yn lliniaru'r namau modur sy'n gysylltiedig â chlefyd Parkinson yn llwyddiannus.
Gan ganmol canlyniadau'r prosiect ymchwil cydweithredol hwn, dywedodd yr Athro Jeanne Loring o Sefydliad Ymchwil Scripps: "Mae gwaith dadansoddi pellach yn parhau, ond mae'r canlyniadau hyn yn dangos y gellid defnyddio celloedd o gleifion Parkinson i ddatblygu therapi celloedd dopamin yn effeithiol sy'n lliniaru symptomau'r salwch. Rydym yn gyffrous bod ein cydweithrediad â thîm Dr Lelos wedi bod yn gam mawr ymlaen i ni wrth ddatblygu therapi amnewid niwroleg dopamin ar gyfer cleifion â chlefyd Parkinson."
Ychwanegodd Dr Lelos: "Mae therapïau sy'n deillio o bôn-gelloedd yn debygol o fod yn effeithiol yn y dyfodol i bobl â chlefyd Parkinson. Mae labordy yr Athro Jeanne Loring yn datblygu therapi celloedd newydd cyffrous a, thrwy weithio gyda'n gilydd, rydym wrth ein bodd yn gallu dangos pa mor eithriadol o dda y mae'r driniaeth hon yn gweithio yn ein model o glefyd Parkinson. Mae'r canlyniadau pwysig hyn yn symud triniaethau personol ar gyfer cleifion Parkinson un cam yn nes at y clinig."