Arian i ymchwil atal anafiadau ymennydd
15 Ionawr 2019
Deunydd 3D wedi’i argraffu a ddatblygwyd gan ymchwilwyr peirianneg yn cael cefnogaeth NFL.
Mae tîm o ymchwilwyr o'r Ysgol Peirianneg wedi cael eu gwobrwyo am ennill menter cyfrannu torfol ddiweddaraf y Gynghrair Pêl-droed Americanaidd Genedlaethol (NFL), her V HeadHealthTech, sydd â'r nod o wella 'iechyd pen' chwaraewyr pêl-droed Americanaidd.
Roedd y tîm eisoes wedi cael $250,000 gan Her III HeadHealthTech yn 2015. Maent bellach wedi cael $116,155 ychwanegol, a nhw yw’r cyntaf o'r tu allan i'r Unol Daleithiau i gael y grant hwn.
Defnyddiodd y tîm efelychiadau cyfrifiadurol cymhleth i ddylunio C3, leinin helmed elastig â mwy nag un haen sydd â gallu uchel i amsugno egni. Maent bellach yn cynnig cyfuno eu strwythurau sy'n gallu amsugno egni gyda'u gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg am briodweddau deunyddiau visco-elastig, er mwyn creu leinin ar gyfer helmedau sy’n effeithiol dros sbectrwm mwy eang o egni gwrthdrawiad.
Dywedodd arweinydd y prosiect a'r Uwch Ddarlithydd, Dr Peter Theobald, "Mae modelu cyfrifiadurol yn ein galluogi i ddadansoddi perfformiad ystod eang o geometregau, i nodi hynny sydd â'r potensial i amddiffyn y pen yn erbyn mwy o gyflymder gwrthdrawiad na'r helmedau presennol. Mae ein sgiliau ym maes gweithgynhyrchu ychwanegion bellach yn ein galluogi i greu'r dyluniadau cymhleth hyn, a datblygu’r deunyddiau perfformiad uchel hyn."
"Mae cyfres Tech Challenge yn parhau i hyrwyddo syniadau creadigol ac arloesol fel rhai Prifysgol Caerdydd, i hybu diogelwch athletwyr," meddai Jeff Miller, Is-Lywydd Gweithredol NFL ar gyfer mentrau iechyd a diogelwch, mewn datganiad.
Ychwanegodd Dr Barry Myers, cyfarwyddwr arloesedd Duke CTSI ac ymgynghorydd i Gymdeithas Chwaraewyr NFL, "Mae ein tîm yn Duke CTSI yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Phrifysgol Caerdydd er mwyn eu helpu i fireinio eu dyluniad ar gyfer pêl-droed Americanaidd a gwneud yn siŵr bod ganddynt yr adnoddau i gyflwyno eu technoleg arloesol i'r farchnad."