Gallai dinasoedd chwarae rhan allweddol yng nghadwraeth pryfed peillio
15 Ionawr 2019
O ystyried y pwysau sy'n wynebu pryfed peillio mewn tir amaethyddol, gallai dinasoedd chwarae rôl bwysig yng nghadwraeth pryfed peillio, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae'r ymchwil newydd, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi datgelu bod gerddi a rhandiroedd yn dda ar gyfer pryfed peillio a bod tafod yr ych a lafant yn blanhigion gardd pwysig y mae pryfed peillio'n eu defnyddio fel ffynonellau o fwyd.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn Nature Ecology and Evolution, ac asesodd pob defnydd y mae pryfed peillio'n ei wneud o dir trefol. Er bod rhai astudiaethau ar raddfa fach wedi'u cynnal ar bryfed peillio mewn ambell ddefnydd o dir trefol, dyma'r tro cyntaf i wyddonwyr ystyried dinasoedd yn eu cyfanrwydd.
Canfu'r tîm fod gerddi preswyl a rhandiroedd yn arbennig o dda ar gyfer pryfed peillio, a bod lafant, tafod yr ych, dant y llew, ysgall, mieri a blodau menyn yn rhywogaethau pwysig o blanhigion ar gyfer pryfed peillo mewn ardaloedd trefol.
At hynny, dyluniodd y tîm fodd newydd o fesur llwyddiant rheoli, ar sail cadernid cymunedol, sy'n ystyried sefydlogrwydd cymunedau cyfan o bryfed peillio, ac nid rhywogaethau unigol yn unig. Mae cadernid yn fesur o'r modd y mae cymuned yn ymateb i golli rhywogaethau; gall cymunedau cadarn oresgyn diflaniad rhai rhywogaethau, ond mae colli rhywogaethau mewn cymunedau bregus yn arwain at effaith ddomino o golli rhywogaethau eraill.
Dyma brif argymhellion yr astudiaeth:
- Dylid rheoli mannau gwyrdd cyhoeddus fel eu bod o fudd i bryfed peillio. Mae parciau, ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd cyhoeddus eraill yn ffurfio tua threian o ddinasoedd, ond mae llai o bryfed peillio'n ymweld â nhw, ac mae ganddynt lai o adnoddau ar gyfer pryfed peillio na defnyddiau eraill o dir. Mae'r ymchwil yn dangos y gall cynyddu niferoedd y blodau, er enghraifft drwy dorri'r gwair yn llai aml, helpu pryfed peillio trefol.
- Mae gerddi'n ffurfio hyd at chwarter i dreian o arwynebedd dinasoedd y DU, ac mae rheoli gerddi'n well mewn datblygiadau newydd a gerddi sy'n bodoli eisoes yn debygol o fod o fudd i gadwraeth pryfed peillio.
- Dylai cynllunwyr dinasoedd a chynghorau lleol gynyddu nifer y rhandiroedd mewn trefi a dinasoedd. Mae rhandiroedd yn dda ar gyfer pryfed peillio yn ogystal â phobl a gallai cynyddu eu maint gan hyd yn oed ychydig bach gael effaith gadarnhaol iawn ar bryfed peillio.
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan wyddonwyr ym Mhrifysgolion Bryste, Caeredin, Leeds a Reading mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Synthesis Cymdeithasol-amgylcheddol Genedlaethol (SESYNC). Buont yn gweithio ar y cyd â chynghorau lleol ac Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, gan gynnwys: Cyngor Dinas Bryste; Cyngor Dinas Caeredin; Cyngor Dinas Leeds; Cyngor Bwrdeistref Reading; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Avon; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Efrog; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Berkshire, Swydd Buckingham ac Oxon ac Amgueddfa Cymru.