Yr Athro Christopher Hooley FRS
15 Ionawr 2019
Trist iawn oedd clywed bod yr Athro Christopher Hooley wedi ein gadael.
Yr Athro Christopher Hooley oedd un o Ddamcaniaethwyr Rhif mwyaf nodedig y Deyrnas Unedig, a bu’n Bennaeth ar Ysgol Mathemateg Caerdydd.
Graddiodd yr Athro Hooley o Goleg Corpus Christi, Caergrawnt, ac aeth ymlaen i gwblhau ei PhD yno yn 1957 sef ‘Some Theorems in the Additive Theory of Numbers’ dan oruchwyliaeth yr Athro A. Ingham.
Yn 1958, symudodd yr Athro Hooley i Fryste, ac arhosodd yno tan 1965 pan gafodd ei benodi’n Athro Mathemateg Bur yn Durham. Yn 1967, symudodd i Gaerdydd yn Bennaeth yr Ysgol Mathemateg Bur, a bu’n Bennaeth ar Ysgol Mathemateg Caerdydd o 1988-1995. Bu’r Athro Hooley yn Athro Ymchwil Nodedig Anrhydeddus yng Nghaerdydd tan 2008.
Yn 1973, enillodd Wobr Adams, a ddyfarnir gan Brifysgol Caergrawnt, ac yn 1980, enillodd Wobr Uwch Berwick gan Gymdeithas Fathemategol Llundain. Yn 1983, cyflwynodd yr Athro Hooley anerchiad awr o hyd yng Nghyngres Ryngwladol y Mathemategwyr yn Warsaw. Bu ar sawl achlysur yn Athro gwadd yn y Sefydliad Astudiaethau Uwch yn Princeton, ac yn 1983 cafodd ei ethol yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Roedd yr Athro Hooley yn un o’r Cymrodyr a Sefydlodd Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cynhyrchodd yr Athro Hooley bron cant o gyhoeddiadau sydd wedi dylanwadu’n gryf ar ddatblygiad damcaniaeth rhif ddadansoddol yn ystod yr hanner canrif diwethaf. Gwnaeth gyfraniadau creiddiol i ddatblygiad theori gogr, gan i rywfaint o’r gwaith hwnnw gael ei amlygu yn ei fonograff dylanwadol “Applications of Sieve Methods”, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt (CUP) yn 1976.
Bu’n arloeswr cynnar ym maes damcaniaeth rhif ddadansoddol, gan gymhwyso datrysiad enwog Deligne o Dybiaethau Weil i broblemau theori gogr a hafaliadau yn null Diophantus. Newidiodd y gwaith hwn gwrs y pwnc.
Mae gwaith yr Athro Hooley ar broblemau ychwanegion, a’i gymwysiadau o’r dull cylch, yn unigryw ei flas ac yn ddigyffelyb o soffistigedig. Yn arbennig, mae ei brawf yn 1988 bod ffurfiau ciwbig nad ydynt yn unigol mewn naw newidyn yn bodloni Egwyddor Hasse yn dal yn un o gyflawniadau gorchestol defnydd o ddulliau dadansoddol Fourier ym maes damcaniaeth rhif.
Yn olaf, ond nid yn lleiaf yn bendant, mae ei gyfres hollgynhwysol o bedwar papur ar bymtheg ar theorem Barban-Davenport-Halberstam.
Ymhlith ei bapurau pwysig mae:
- On nonary cubic forms, Journal für die reine und angewandte Mathematik, 386, tudalennau 32-98, (1988)
- On the Barban-Davenport-Halberstam theorem V, VI, and VII, Trafodion Cymdeithas Fathemategol Llundain.(3), 33 (1976), 535-548; J. Cymdeithas Fathemategol Llundain (2), 13 (1976), 57-64; ibid 16 (1977), 1-8
- On the representation of a number as a sum of four cubes I, and II, Trafodion Cymdeithas Fathemategol Llundain (3), 36 (1978), 117-140; J. Cymdeithas Fathemategol Llundain (2), 16 (1977), 424-428
- On a new technique and its applications to the theory of numbers, Trafodion Cymdeithas Fathemategol Llundain (3), 38 (1979), 115-151