Uwch-ddarlithydd mewn cyfres ar BBC Radio 4
14 Ionawr 2018
Bydd Dr Sharon Thompson, Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith, i’w chlywed mewn cyfres newydd ar BBC Radio 4 o’r enw The Battles That Won Our Freedoms.
Mae’r gyfres yn adrodd straeon brwydrau yn hanes Prydain a arweiniodd at ennill rhyddid a oedd yn aml yn cael ei gymryd yn ganiataol yng nghymdeithas Prydain, gan ddod â haneswyr a phobl sy’n dal yn rhan o’r trafferthion hynny heddiw ynghyd. Mae’r penodau yn trin a thrafod materion megis rhyddid crefydd, rhyddid gwybodaeth, hawliau pobl hoyw, rhyddid y wasg a rhyddfreinio Catholigion.
Mae Dr Sharon Thompson ym mhennod wyth y gyfres sy’n canolbwyntio ar Ddeddf Eiddo Menywod Priod 1882. Mae hi’n cwrdd â Julie Arnold, i drafod sut y cafodd canlyniad achos ysgariad Ms Arnold yn 2017 Sharp v Sharp ei ddylanwadu gan athrawiaeth eiddo ar wahân yng nghyfraith Lloegr. Mae Dr Thompson yn adrodd hanes brwydr menywod Oes Fictoria i ennill rhyddid hollbwysig i wragedd: yr hawl i fod yn berchen ar eu heiddo ar ôl priodi.
Mae’r hanes hwn o garreg filltir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gysylltiedig â’i hymchwil presennol ar eiddo menywod priod yn yr ugeinfed ganrif, a ariennir gan y Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol. Nod yr ymchwil yw ymdrin â stori nas dywedwyd am y Gymdeithas Menywod Priod, a’i hymgyrchoedd dros gydraddoldeb economaidd mewn priodas, mewn ffordd gymdeithasol-gyfreithiol a hanesyddol.
Caiff y bennod ei darlledu ar 16 Ionawr am 1.45pm a bydd ar gael ar ôl hynny ar BBC Sounds.