Ewch i’r prif gynnwys

Enwi'r Farwnes Randerson yn Ganghellor Prifysgol Caerdydd

16 Ionawr 2019

Baroness Randerson

Penodwyd un o'r ffigurau gwleidyddol mwyaf uchel ei pharch yng Nghymru, fu'n gwasanaethu am gyfnod hir, yn Ganghellor ar Brifysgol Caerdydd.

Mae'r Farwnes Randerson yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganghellor blaenorol y Brifysgol, a gwyddonydd sydd wedi ennill Gwobr Nobel, yr Athro Syr Martin Evans, wnaeth roi'r gorau i'w swydd yn 2017.

Rôl y Canghellor yw'r un uchaf o blith rolau er anrhydedd y Brifysgol, ac mae'n cynnwys y dasg allweddol o gadeirio Llys y Brifysgol, a llywyddu ym mhob seremoni raddio.

Nid yw'r Farwnes Randerson yn ddieithr i'r Brifysgol, am y bu'n Ddirprwy Ganghellor ers 2017. At hynny, cafodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd yn 2011, i gydnabod ei chyfraniad rhagorol i fywyd cyhoeddus.

Yn ôl y Farwnes Randerson: "Braint o'r mwyaf yw cael fy ngofyn i ymgymryd â'r rôl hon, ac rwy'n arbennig o ymwybodol y byddaf yn dilyn ôl traed rhagflaenwyr mor nodedig.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn agos iawn at fy nghalon. Rydw i wedi cael cysylltiadau agos â'r Brifysgol ers sawl blwyddyn. Mae wedi'i lleoli yn yr etholaeth a gynrychiolais fel AC, ac roedd llawer o'i staff a'i myfyrwyr yn
etholwyr.

"Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill ei phlwyf fel un o'r gorau yn y DU, a chanddi enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth. Fodd bynnag, mae angen gwaith caled cyson i gynnal a datblygu'r enw da hwnnw.

Byddaf yn cymryd yr awenau yn y rôl hon ar adeg heriol dros ben i holl brifysgolion y DU, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth y gallaf i gynrychioli'r Brifysgol, ei myfyrwyr a'i staff, hyd eithaf fy ngallu.

Mae'r Farwnes Randerson

Mae'r Farwnes Randerson gyda'r gwleidyddion sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghymru, ac yn meddu ar yrfa nodedig o wasanaeth cyhoeddus sy'n rhychwantu pedwar degawd.

Cafodd ei derbyn i Dŷ'r Arglwyddi yn 2011, a bu'n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru rhwng 2012 a 2015, pan oedd hi hefyd yn Llefarydd yn Nhŷ'r Arglwyddi dros Swyddfa Gogledd Iwerddon.

Mae hi'n dal i fod yn brif lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Drafnidiaeth.

Cyn cael ei dyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi, roedd y Farwnes Randerson yn Aelod o'r Cynulliad dros Ganol Caerdydd rhwng 1999 a 2011. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu'n Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg (2000-2003), ac yn Ddirprwy Brif Weinidog Dros Dro (2001-2002).

Roedd hynny'n dilyn gyrfa weithgar ym maes llywodraeth leol, fel Cynghorydd ar Gyngor Caerdydd rhwng 1983 a 2000. Hi oedd Arweinydd yr Wrthblaid ar Gyngor y Ddinas a'r Sir rhwng 1995 a 1999.

Bu hefyd yn Ynad Heddwch ar Fainc Caerdydd (1982-1999).

Cyn dechrau ar wasanaeth cyhoeddus, roedd y Farwnes Randerson yn athrawes ysgol uwchradd (1970-1976) ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Glan Hafren (1976-1999).

Mae ganddi radd BA gydag anrhydedd o Goleg Bedford, Prifysgol Llundain, a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg o'r Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain.

Mae seremoni urddo'r Farwnes Randerson yn swyddogol fel Canghellor yn cael ei chynnal ar 30 Ionawr 2019.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cael effaith sylweddol ar Gymru a'r DU, mewn meysydd sy'n cynnwys cyflogaeth, ariannu ymchwil a gweithgareddau dysgu ac addysgu.