Prifysgol Caerdydd yn ymuno â phrosiect er mwyn gostwng costau ynni
9 Ionawr 2019
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â phrosiect arloesol sy’n ceisio lleihau costau ynni ac allyriadau carbon ar draws ystâd y sector cyhoeddus yn y DU.
Bydd y cynllun peilot arloesol yn datblygu atebion clyfar ac integredig o ran ynni i ostwng ôl-troed carbon safleoedd yn y sector cyhoeddus, gan sbarduno marchnad fyd-eang flynyddol a allai fod werth £100 biliwn.
Mae Modern Energy Partners (MEP) yn brosiect ar y cyd rhwng Swyddfa'r Cabinet, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), Crown Commercial Services ac Energy Systems Catapult, yn gweithio ar y cyd ag arbenigwyr y sector preifat. Mae BEIS Energy Innovation Programme, wedi cyfrannu £2m at y cynllun.
Nod y prosiect yw cynyddu arbenigedd y sector preifat ym maes atebion arloesol, clyfar, integredig ac wedi'u hoptimeiddio ar gyfer ynni, sy'n cyfuno cynhyrchu a storio carbon ar raddfa isel, a rheoli'r galw am ynni, er budd ystâd y sector gyhoeddus yn ogystal â'r system ynni yn fwy eang.
Bydd yr Ymddiriedolaeth Garbon a'r consortia sy'n ei chefnogi yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu atebion integredig ar gyfer ynni ar draws ystâd y Brifysgol. Mae dau o fatrics y fyddin a charchardy ymhlith safleoedd eraill y sector cyhoeddus a ddewiswyd ar gyfer y peilot.
Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Gwnaethom gyhoeddi'r llynedd y byddai Prifysgol Caerdydd yn rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil erbyn 2021. Cynaliadwyedd amgylcheddol yw un o’r gwerthoedd craidd yn ein strategaeth, Y Ffordd Ymlaen 2018-23. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phrosiect MEP ar draws ein hystâd.
Yn ôl John Nangle, Arweinydd Masnachol y Goron ar gyfer Ynni, Swyddfa'r Cabinet: "Mae angen hanfodol i oresgyn rhwystrau presennol i gynyddu'r farchnad glyfar, integredig ac wedi'i hoptimeiddio, gan gynnwys y diffyg arbenigedd yn y maes hwn ar hyn o bryd.
"Nod MEP yw mynd i'r afael â'r her hon, drwy weithio gyda chadwyn gyflenwi'r sector preifat er mwyn datblygu atebion o fewn safleoedd ar raddfa campws ac ar draws ystâd y sector cyhoeddus. Mae'r safleoedd hynny'n ddelfrydol ar gyfer trawsnewid systemau ynni yn y ffordd orau o ran costau. Bydd gwneud defnydd digon sylweddol o’r rhain yn galluogi atebion effeithlonrwydd ynni a rheoli galw i gael effaith economaidd wirioneddol, ond heb fod yn rhy sylweddol i'w rheoli."
"Rydym yn croesawu’r ffaith fod partneriaid yn y sector preifat wedi’u penodi i'r ffrwd gyntaf o safleoedd, gan olygu bod y prosiect yn cael ei lansio’n ffurfiol."
Bydd prif feysydd ffocws y prosiect yn cynnwys optimeiddio'r defnydd o ynni ac asedion yn y safleoedd targed a gyda
safleoedd cymdogol; paratoi cyfleusterau i ddiwallu’r galw am ynni yn y dyfodol, fel defnyddio moduron trydanol; ac edrych ar sut y gall ystâd y sector cyhoeddus gefnogi'r broses o drawsnewid y system ynni'n fwy eang gan ddefnyddio asedion hyblyg a dyluniad cefnogol.
Ochr yn ochr â hynny, bydd MEP yn gweithio gyda chyflenwyr er mwyn datblygu methodoleg gyffredinol sy'n cefnogi'r broses o roi atebion effeithlonrwydd ynni integredig ar waith ar draws ystâd y sector cyhoeddus o 2019 ymlaen, a'r sector preifat o 2021 ymlaen. Mae hynny'n cynnwys datblygu gofynion dylunio’r sector cyhoeddus o ran dyluniad er mwyn creu ateb ynni integredig ar draws safleoedd unigol, y gellir ei gaffael, ei ariannu, ei osod a'i weithredu'n effeithlon.
Yn ôl Nick Smailes, Cyfarwyddwr MEP yn Energy Systems Catapult: "Drwy Modern Energy Partners, mae gennym gyfle heb ei debyg o'r blaen i arbed arian ar gyfer y coffrau cyhoeddus, a mynd i'r afael â'r her o ddatgarboneiddio ar yr un pryd.
"Rydym am geisio gwneud hynny drwy ddatblygu atebion integredig sy’n gallu hunangynhyrchu ynni a defnyddio'r ffynonellau adnewyddadwy mwyaf priodol; cadw, monitro a rheoli'r galw am ynni, a rhannu ynni rhwng safleoedd y byddant, at ei gilydd, yn arwain at fuddiannau economaidd sylweddol."
Mae prosiect Modern Energy Partners wedi'i alinio'n agos â strategaethau Twf Glân a Diwydiannol y Llywodraeth, wrth helpu i fodloni argymhellion y Gweithlu Buddsoddiad Gwyrdd. Mae'n deillio o astudiaeth dichonoldeb gwerth £400k – Energy System Integration Guides (EISG): Distributed Energy – wnaeth archwilio i'r modd y gallai ystâd y sector cyhoeddus helpu i sbarduno'r farchnad ar safleoedd ar raddfa campws, a chynnig methodoleg beilot gynnar ar gyfer datblygu effeithlonrwydd ynni.